Page 10 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 10
10
1.1 Diben
Mae’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol hwn ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru wedi cael ei ddatblygu ar gais Llywodraeth Cymru i lywio ei hymagwedd strategol at gyflenwi darpariaeth cyflogaeth a sgiliau. Mae’r adroddiad hwn yn cydberthnasu â thempled Cynllunio a Chyllid Rhanbarthol sy’n nodi newidiadau a argymhellir i’r cynigion addysg bellach amser llawn a dysgu seiliedig ar waith ar draws y rhanbarth yn y tair blynedd nesaf (blynyddoedd academaidd 19/20, 20/21 a 21/22). Mae’r ddwy elfen yn cyfuno i gynorthwyo Llywodraeth Cymru yn y gwaith o ddarparu amgylchedd dysgu ôl-16 sy’n dal i fod yn addas i’r diben ac sy’n diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr.
Mae’r fersiwn hon o’r cynllun yn adeiladu ar y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau a baratowyd ar gyfer 2017 lle gwnaeth y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol nifer o argymhellion ar sail yr heriau mae’r rhanbarth yn eu hwynebu yn nhermau sgiliau a chyflogaeth. Felly mae’r argymhellion a nodir yn fersiwn eleni yn ailddatgan perthnasedd yr heriau a nodwyd o’r blaen, gan lywio’r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu a fydd yn cyfarwyddo gweithgarwch y Bartneriaeth dros y tair blynedd nesaf.
1.2 Y broses
Canfod y galw yw sail y gwaith o ddatblygu cynllun sy’n addas i’r diben ac mae ymgysylltu â chyflogwyr mewn modd effeithiol ac ystyrlon yn rhan annatod o’r cam hwn. Gan adeiladu ar ddatblygiadau y llynedd, felly, a gwella ei pherthynas â chyflogwyr, mae’r Bartneriaeth yn parhau i hwyluso saith grŵp clwstwr diwydiant sy’n chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ganfod blaenoriaethau diwydiannau. Mae’r grwpiau yn alinio’n uniongyrchol â’r sectorau hynny y barnwyd eu bod yn flaenoriaeth i’r rhanbarth, sef;
• Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch ac Ynni,
• Adeiladu,
• Diwydiannau Creadigol, Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol a TGCh,
• Bwyd a Ffermio,
• Iechyd a Gofal Cymdeithasol,
• Hamdden, Twristiaeth a Manwerthu.
Yn ogystal â hwyluso’r grwpiau clwstwr diwydiant, gwnaeth y Bartneriaeth waith ymchwil cynradd trylwyr, gan gasglu data meintiol ac ansoddol, yn bennaf trwy arolygon electronig neu gyfweliadau dros y ffôn. Cwblhaodd mwy na 500 o fusnesau yr arolwg, a rhoddir dadansoddiad ohonynt isod:
Sir Micro Bach
Canolig Mawr
Cyfanswm
107 52 91 91 73 74 23 511
Sir Gâr
Castell-nedd Port Talbot
Sir Penfro
Abertawe
Ceredigion
Powys
Rhanbarthol
Cyfanswm
20 48 24 15 14 26 7 5 34 33 17 7 18 31 27 15 34 26 9 4 19 34 13 8 2 3 513 138 193 95 54
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Pwrpas