Page 11 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 11
11
Gellir gweld rhestr lawn o’r cyflogwyr yr ymgysylltwyd â hwy yma
http://www.rlp.org.uk/wp-content/uploads/Employers-Engaged-1.pdf
Yn ogystal â’r 511 o gyflogwyr unigol yr ymgysylltwyd â hwy, rydym hefyd wedi sicrhau yr ymgysylltwyd yn llawn â chyrff cynrychioli wrth ddatblygu’r adroddiad hwn. Gyda’i gilydd maent yn cynrychioli miloedd o fusnesau ar draws y rhanbarth ac maent yn cynnwys;
• CITB,
• ECITB,
• Ffederasiwn Busnesau Bach,
• Siambr Fasnach De Cymru,
• Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru,
• Busnes Cymru,
• Grw^ p Gweithgynhyrchu’r Canolbarth,
• Twristiaeth Sir Benfro,
• Cymdeithas Ymwelwyr Sir Gâr,
• Brecon Beacons Tourist Association,
• Fforwm Twristiaeth y Canolbarth,
• Fforwm Twristiaeth y De-orllewin,
• Twristiaeth Abertawe,
• Lantra,
• Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr,
• Undeb Amaethwyr Cymru,
• Gofal Cymdeithasol Cymru.
Wedyn caiff dadansoddiad o’r dystiolaeth uniongyrchol a gasglwyd ei ystyried o’i gymharu â’r wybodaeth am y cyflenwad cwricwlwm a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar y cynigion addysg bellach amser llawn a dysgu seiliedig ar waith ar draws y rhanbarth. Un elfen allweddol o’r cam hwn oedd datblygu is-grw^ p yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o’r darparwyr ar draws y rhanbarth a chadeiryddion diwydiant y grwpiau clwstwr a grybwyllwyd uchod. Roedd creu’r grw^ p hwn yn caniatáu i drafodaethau allweddol gael eu cynnal gan sicrhau bod yr argymhellion a wnaethpwyd yn fuddiol ac yn dderbyniol i’r ddwy ochr.
1.3 Cyfyngiadau a ffactorau i’w hystyriedn
Wrth ddarllen y ddogfen hon dylid ystyried nifer o ffactorau, sef;
• Yn unol â’r fanyleb oddi wrth Lywodraeth Cymru unig bwrpas y cynllun hwn yw gwneud argymhellion ynghylch y ddarpariaeth alwedigaethol amser llawn ac elfennau o ddysgu seiliedig ar waith. Gellir gweld y data ategol hyn yn atodiad 1 yn y crynodeb cyflenwad. Mae’r Bartneriaeth yn sylweddoli mai rhan fach o’r cynnig ôl-16 sydd ar gael yn y rhanbarth yw hyn gan nad yw’n ystyried y ddarpariaeth ar lefel ysgolion, y ddarpariaeth lefel A, y cynnig addysg uwch presennol na dysgu oedolion a’r gymuned. Mae’r Bartneriaeth yn gobeithio cynhyrchu cynllun rhanbarthol sy’n cynnwys yn llawn yr holl dirwedd ôl-16, gan fynd i’r afael â’r cyfyngiadau hyn, mewn fersiynau yn y dyfodol, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
• Dylai’r dystiolaeth oddi wrth gyflogwyr yn y proffiliau sector gael ei gweld fel barn y cyflogwyr yr ymgysylltodd y Bartneriaeth â hwy yn ystod y broses hon (trwy gyfarfodydd grwpiau clwstwr, ymatebion i arolwg neu gyfweliadau) yn unig ac nid y diwydiannau’n gyfan.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Pwrpas