Page 44 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 44
44
Amcanion Dyheadol
Mae’r bartneriaeth wedi nodi nifer o amcanion dyheadol sy’n cynnig gweledigaeth hirdymor i’r rhanbarth. Byddir yn mynd i’r afael â’r amcanion dyheadol hyn trwy weithgareddau’r Bartneriaeth a’i phartneriaid ehangach a byddant yn cael eu hadolygu a’u mesur bob blwyddyn trwy’r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol.
1. Creu amgylchedd dysgu ôl-16 sy’n diwallu anghenion diwydiannau a dysgwyr ac ar yr un pryd yn cynorthwyo darparwyr i gyflawni’r newidiadau angenrheidiol.
2. Gwella’r ffordd y caiff cyfleoedd prentisiaethau eu datblygu a’u cyflenwi ar draws y rhanbarth er mwyn sicrhau y caiff pawb gyfle i ennill sgiliau newydd neu ail-sgilio, waeth beth fo ei amgylchiadau personol.
3. Sicrhau bod mwy o barch cydradd rhwng gwahanol lwybrau dysgu ac y gall dysgwyr gael cyngor a chyfarwyddyd sy’n gynrychiadol i’r perwyl hwn.
4. Bod yn ymatebol fel rhanbarth i newidiadau mewn amgylchiadau yn nhermau’r sgiliau mae eu hangen i sicrhau y gall y bobl sy’n byw, gweithio a gweithredu yn y rhanbarth fanteisio’n llawn ar bob cyfle.
5. Ymchwilio i, a phan fo’n briodol defnyddio’n llawn, yr holl ddewisiadau sydd ar gael o ran darparu addysgu a dysgu; gan gynnwys cynlluniau rhannu prentisiaeth, canolfannau rhagoriaeth, dysgu modiwlaidd ac e-ddysgu.
Casgliadau ac Argymhellion
Fel y nodwyd yn adran 1, mae’r argymhellion a wnaethpwyd yng Nghynllun Cyflogaeth a Sgiliau y llynedd yr un mor berthnasol yn awr ag yr oeddent bryd hynny. O ganlyniad, bydd y Bartneriaeth yn parhau i seilio ei gweithgarwch ar y cynllun gweithredu a ddatblygwyd o’r argymhellion hynny. Fodd bynnag, mae hwn wedi cael ei newid ychydig i adlewyrchu’r meysydd o bwysigrwydd penodol a dynnwyd o’r adroddiad blynyddol hwn. Gellir gweld y prif gasgliadau ac argymhellion isod:
Cyflogadwyedd
Mae parodrwydd gweithwyr newydd am waith yn her ac mae llawer o fusnesau’n sôn am ddiffyg profiad gwaith ac agweddau gwael a diffyg ysgogiad ymysg gweithwyr newydd. Mae sgiliau sylfaenol o ran rhifedd, llythrennedd a sgiliau digidol yn broblem i lawer o fusnesau waeth beth fo’r sector.
1. Gwella gweithio partneriaethol er mwyn mynd i’r afael â’r problemau o ran cyflogadwyedd unigolion, gan alinio’r gweithgarwch hwn â Rhaglen Cyflogadwyedd Cymru Gyfan.
2. Ymgysylltu ag ysgolion, awdurdodau lleol a darparwyr i hyrwyddo’r angen am sgiliau sylfaenol ac i dynnu sylw at bryderon diwydiannau.
3. Cynorthwyo rhanddeiliaid i leihau lefelau anweithgarwch economaidd ymysg grwpiau dan anfantais gan gynnwys pobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor.
Dewisiadau Dysgu a Gyrfa
Mae dirnadaethau am sectorau’n dal i fod yn broblem gyffredin. Mae hyn yn gwaethygu’r heriau o ran recriwtio a wynebir gan ddarparwyr a chyflogwyr.
4. Ymgysylltumwyagysgolionadylanwadwyrihyrwyddosectorauymaedirnadaethwaelamdanynt.
5. Cydweithio’n agos â darparwyr i ddatblygu ymyriadau wedi’u targedu a all gynorthwyo â recriwtio i ddarpariaeth gysylltiedig â’r sectorau blaenoriaethau a nodir yn yr adroddiad
blynyddol hwn.
6. Gwella’r ddealltwriaeth o’r cyfleoedd a gynigir gan brentisiaethau ar draws y rhanbarth a
datblygu gwaith hyrwyddo wedi’i dargedu gyda chyflogwyr, dysgwyr ar bob lefel a dylanwadwyr er mwyn sicrhau y deellir y cyfleoedd.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Casgliadau ac Argymhellion