Page 45 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau 2018
P. 45

Cyfleoedd a Darpariaeth
Bydd cyfleoedd sylweddol ar gael ar draws y rhanbarth trwy brosiectau ar raddfa fawr fel Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Bargen Twf Canolbarth Cymru.
7. Parhau i alinio gweithgareddau â phrosiectau dyheadol ar raddfa fawr gan sicrhau y nodir ac yr ymdrinnir â gofynion o ran sgiliau o fewn amserlen briodol.
Mae tystiolaeth a gasglwyd trwy waith ymgysylltu â rhanddeiliaid yn dangos bod yna fylchau yn y ddarpariaeth a gynigir. O ganlyniad ni all llawer o ddysgwyr ddilyn y llwybr gyrfa o’u dewis, neu cânt eu gorfodi i ddod o hyd i lwybrau newydd er mwyn dilyn cyrsiau yn y meysydd a ddymunant.
8. Cynorthwyo partneriaid i ddatblygu cwricwlwm sy’n addas i’r diben gan sicrhau y caiff darpariaeth newydd ei hwyluso mewn meysydd lle nad yw’r adnoddau mae eu hangen ar gael ar hyn o bryd.
9. Sicrhau bod y meysydd darpariaeth a nodir yn y Gronfa Datblygu Cynaliadwy a’r Rhaglen Blaenoriaethau Sgiliau yn cael eu cefnogi a’u cyflenwi.
Mae llawer o gyflogwyr yn teimlo nad yw fframweithiau prentisiaeth yn diwallu anghenion eu busnesau ac yn disgrifio hyn fel un o’r prif rwystrau i gyflogi prentis.
10. Ymgysylltu’n well â chyflogwyr yn y gwaith o ddatblygu fframweithiau prentisiaeth, gan gynnwys ar gyfer rhaglenni uwch a lefel gradd, trwy fwy o gyfraniad uniongyrchol gan gyflogwyr a hyblygrwydd
45
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Casgliadau ac Argymhellion


































































































   43   44   45   46   47