Page 3 - Prentisiaethau Gradd
ar draws De-orllewin Cymru
P. 3
Beth yw Prentisiaethau Gradd?
Mae prentisiaethau gradd yn gymwysterau integredig seiliedig ar waith sy'n cyfuno dysgu yn y gweithle yn y byd go iawn â chymhwyster.
Mae prentisiaethau gradd ar gyfer unigolion profiadol sy'n awyddus i wneud cynnydd o ran eu datblygiad proffesiynol yn opsiwn wahanol i'r ffurf draddodiadol o astudio gradd academaidd uwch.
Mae Prentisiaid Gradd yn cwblhau rhaglen sy'n cynnwys gradd baglor (BSc neu BEng).
Pam dewis astudio ar Brentisiaeth Radd?
Mae Prentisiaethau Gradd yn gyfle gwych i ennill profiad gwaith uniongyrchol, dysgu sgiliau newydd ac ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.
Fel myfyriwr Prentisiaeth, byddwch yn:
Cydweithio â staff profiadol a datblygu sgiliau penodol ar gyfer swyddi
Hybu'r potensial i ennill cyflog a chyfleoedd agored i symud ymlaen mewn cyflogaeth
Ennill cymhwyster cydnabyddedig heb unrhyw ffioedd a mynediad at gymorth, beth bynnag fo'ch anghenion
Graddio gyda chymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant
Datblygu sgiliau trosglwyddadwy newydd a chynnydd yn eich diwydiant dewisol
‘Ennill wrth i chi ddysgu'
a derbyn cyflog gan eich cyflogwr ac elwa o gyflogaeth warantedig yn ystod y rhaglen brentisiaeth
Ennill hyd at 3-4 blynedd o brofiad gwaith perthnasol i gyd-fynd neu i ategu eich gradd
Graddio heb unrhyw ddyled myfyriwr, gan fod yr holl ffioedd dysgu yn cael eu talu gan CCAUC
Ennill y sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y gwaith a gwybodaeth lefel uwch sy'n dod gyda'r cymhwyster newydd
Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol 1