Page 5 - Prentisiaethau Gradd ar draws De-orllewin Cymru
P. 5

Sut ydw i'n gymwys ar gyfer Prentisiaethau Gradd?
I fod yn gymwys am brentisiaeth gradd, bydd angen:
 Bydd angen i chi fod yn gyflogedig mewn swydd berthnasol naill ai yn eich swydd bresennol neu fel dechreuwr newydd mewn swydd, am o leiaf 30 awr yr wythnos a gweithio 51% o'r amser yng Nghymru
  Bydd angen i'ch cyflogwr gytuno i chi gofrestru ar y cwrs prentisiaeth a'ch rhyddhau o'r gwaith ar gyfer yr amser astudio gofynnol bob wythnos
 Bydd angen i chi hefyd fodloni cymwyseddau a gofynion mynediad rhaglen y brentisiaeth gradd berthnasol
 Sut mae Prentisiaethau Gradd yn cefnogi Busnesau?
Mae Prentisiaethau yn fuddsoddiad gwych ac mae miloedd o fusnesau yn elwa o brentisiaethau i'w helpu i dyfu. Gall Prentisiaethau helpu i recriwtio talent newydd neu ddatblygu staff presennol.
Gall Busnesau ddefnyddio Prentisiaethau i feithrin y wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Gall busnesau o unrhyw faint yng Nghymru gymryd prentisiaid gradd.
Cysylltwch â'ch prifysgol leol i gael rhagor o wybodaeth neu gofrestru eich diddordeb gyda Phorth Sgiliau Busnes Cymru.
Ffeithiau prentisiaeth i Fusnesau.
 Mae Prentisiaethau'n para blwyddyn o leiaf ac yn gweithio mewn partneriaeth â phartner hyfforddi sydd wedi'i gymeradwyo gan y llywodraeth
 Mae Prentisiaid yn treulio o leiaf 20% o amser â thâl mewn hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith yn y coleg neu'r brifysgol a'r gweddill gyda'r cyflogwr
 Nid oes unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr ar gyfer prentis o dan 25 oed
 Y ffioedd blynyddol ar gyfer myfyrwyr y DU/UE yw £9000 y flwyddyn, gyda 'chyllid llawn' ar gael ar hyn o bryd (yn amodol ar gadarnhad gan CCAUC), i dalu ffioedd dysgu'r cwrs llawn o £27,000
 Dim ffi dysgu ychwanegol i'r myfyriwr na'r cyflogwr
 Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol 3



















































































   3   4   5   6   7