Page 7 - Prentisiaethau Gradd ar draws De-orllewin Cymru
P. 7

Sut ydw i'n cefnogi
fy staff i ddatblygu'r sgiliau a'r ymddygiadau sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant?
 Darparu addysg o ansawdd uchel yn y gwaith
 Cefnogi'r prentis gyda'i brofiad / phrofiad hyfforddi a dysgu i ffwrdd o'r gwaith
  Cwrdd yn rheolaidd â'r darparwr prentisiaeth a'r prentis i drafod cynnydd a thrafod unrhyw faterion
 Cefnogi'r darparwr prentisiaeth pe bai angen i Ofsted neu Advance HE archwilio ei sefydliad
 Beth yw'r costau i Fusnesau?
Mae dwy gost yn gysylltiedig â phrentisiaeth gradd.
Costau cyflog y prentis gradd Offer os oes angen, fel gliniadur
Yn y DU, mae cyflogwyr yn gyfrifol am dalu cyflogau eu prentisiaid. Mae costau'r brentisiaeth yn cael eu hariannu drwy'r Ardoll Prentisiaethau neu gyllid y Llywodraeth. Mae yna wahanol gynlluniau ariannu ar draws gwledydd y DU. Mae pob gwlad yn y DU yn rheoli ei rhaglenni prentisiaeth ei hun, gan gynnwys sut mae cyllid yn cael ei wario ar hyfforddiant prentisiaeth.
Cydweithio â'r Darparwr Hyfforddiant
Mae hyfforddiant prentisiaeth yn gofyn am dri pharti:
     Y person sy'n gwneud y brentisiaeth
Y cyflogwr
Gall Busnesau fod yn bryderus am ddechrau prentisiaeth oherwydd eu bod yn ansicr beth yw'r ffordd orau o ddadansoddi bylchau sgiliau yn eu cwmni a beth yw eu rhwymedigaethau cyfreithiol. Bydd darparwyr hyfforddiant prentisiaeth cymeradwy yn helpu i leddfu'r pryderon hyn ac yn cefnogi'r busnes cyn, yn ystod ac ar ôl y brentisiaeth. Bydd y darparwr rydych chi'n ei ddewis yn derbyn arian gan y llywodraeth i hyfforddi gweithlu mwy cynhyrchiol. Mae'r darparwr yn gyfrifol am ansawdd eich rhaglen brentisiaeth a bydd yn dangos sut mae'r hyfforddiant yn bodloni gofynion Ofsted a'r rheolau hyfforddi i ffwrdd o'r gwaith.
Darparwr prentisiaeth a gymeradwyir gan y Llywodraeth
 Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol 5


















































































   5   6   7   8   9