Page 3 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 3
1
Rhagair
Bu rhai newidiadau aruthrol yn y ddwy flynedd diwethaf ac mae'r byd yn parhau i newid yn fwyfwy cyflym. Mae hynny'n beth da, oherwydd mae angen newid arnom yng Nghymru. O gymharu â chyfartaledd y DU o ran Gwerth Ychwanegol Gros, cymwysterau ac incwm y cartref mae ein rhanbarth ni ar ei hôl hi. Ac eto mae newid yn creu cyfleoedd i'r rheiny sy'n uchelgeisiol ac yn benderfynol o fanteisio ar hynny.
Rydym yn ddigon mawr i ymgymryd â phrosiectau mawr ac yn ddigon bach i fod yn ddeinamig, ar yr amod ein bod yn meithrin uchelgais, hunanhyder a gwerth yn ein hunain. Dyna pam y dechreuais ymwneud â sgiliau yn y rhanbarth hwn a pham fy mod yn hapus i gefnogi gwaith y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol a chymeradwyo'r cynllun hwn.
Mae sgiliau yn rhoi gwybodaeth, hyder a gwerth i rywun. Po fwyaf o bobl yr ydym yn eu hyfforddi, yn enwedig pobl ifanc, mwyaf y bydd y rhanbarth cyfan yn elwa. Yn ogystal, mae nifer o brosiectau trawsnewidiol ar waith yn y rhanbarth hwn – Bargen Ddinesig Bae Abertawe, y Morlyn Llanw, ARCH, IMPACT a nifer o brosiectau Tyfu Canolbarth Cymru megis VetHub1 a Champws Arloesi a Menter Aberystwyth lle mae angen dybryd am sgiliau sydd naill ai'n brin neu nad oes dim darpariaeth ar eu cyfer yma eto. Mae'n rhaid i'r rhain adael gwaddol, nid yn unig ar gyfer y presennol ond am ddegawdau i ddod.
Yr hyn sy'n creu'r argraff fwyaf arnaf o ran y gwaith a wnaed gan y Bartneriaeth eleni yw ei hymrwymiad a'r ffordd mae'n ymgysylltu â chyflogwyr. Mae bellach yn sefydliad a arweinir gan gyflogwyr lle mae pob sector allweddol yn cael ei gynrychioli ar ei fwrdd gan gyflogwr o'r sector hwnnw. Yn ogystal, mae bron 300 o gyflogwyr wedi cyfrannu at y cynllun eleni, sy'n golygu mai hwn yw'r cynllun sydd wedi cael ei arwain fwyaf gan gyflogwyr yr ydym wedi'i ddarparu. Mae'n rhaid inni dalu teyrnged i bartneriaeth a chymorth darparwyr ar bob lefel am hynny.
Y neges glir gan ein cyflogwyr a'n darparwyr yw bod gennym gyfle yn y rhanbarth ac yng Nghymru i greu'r bobl fwyaf parod am waith yn y DU. Dyna fydd yn ysgogi llwyddiant a ffyniant cyflogwyr brodorol yn y dyfodol yn ogystal â denu'r gorau o dramor. Felly beth sydd ei angen arnynt? Beth yw "parod am waith”?
Mae cyflogwyr angen pobl ag etheg waith dda. Mae angen arnynt lefelau gwell o sgiliau sylfaenol megis llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu. Mae angen rhoi mwy o bwyslais ar bynciau STEM mewn addysg. Ar draws pob sector mae galw am rolau mwy technegol, yn enwedig ym maes peirianneg a TG. Mae cyflogwyr angen i rieni, athrawon, pobl ifanc a dysgwyr sy'n oedolion ystyried llwybrau amgen i sgiliau yn gyfwerth â chymwysterau academaidd er mwyn inni fanteisio ar yr holl dalent sy'n bodoli yn y rhanbarth.
Mae'r gwaith gan y Bartneriaeth eleni yn dangos cynnydd sylweddol, ond eto rydym eisoes yn cynllunio gwelliannau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae mwy o gyflogwyr yn cymryd rhan bob mis ac mae cynyddu nifer ein cyfranwyr yn sylweddol yn brif flaenoriaeth.
Mae'n amlwg bod llawer o gyflogwyr o hyd nad ydynt yn gwybod cwmpas llawn yr hyn sydd ar gael a sut i gael mynediad i'r hyfforddiant a'r sgiliau y maent yn eu dymuno. Mae angen symleiddio'r mynediad hwnnw. Mae angen mwy o hyblygrwydd a chymorth ar gyflogwyr a darparwyr er mwyn addasu peth hyfforddiant yn becynnau pwrpasol ochr yn ochr â datblygu cynlluniau traddodiadol mewn meysydd allweddol yn barhaus.
Mae cyflogwyr wedi croesawu'r cyfle i gyfrannu at y cynllun hwn, ond maent eisiau mwy. I wneud hynny'n effeithiol, mae'r Bartneriaeth angen mwy o ddata a data gwell er mwyn rhoi gwybodaeth i'r bwrdd a'i grwpiau clwstwr. Dylai'r data hwn ymdrin â'r ddarpariaeth o ran addysg bellach, addysg uwch a Safon Uwch ar draws y rhanbarth, yn ogystal â chynlluniau dysgu oedolion. Drwy wneud hyn, bydd fersiynau o'r cynllun yn y dyfodol nid yn unig yn fwy seiliedig ar dystiolaeth mewn modd gwrthrychol, ond byddant yn llawer mwy clir o ran eu hargymhellion.
Yn olaf, er bod hon wedi bod yn broses gydweithredol rhwng cyflogwr a darparwr, ac er mai hwn yw'r cynllun sydd wedi cael ei arwain fwyaf gan gyflogwyr hyd yn hyn, mae'n rheidrwydd ar y darparwyr a'r Llywodraeth wrando ar lais y cyflogwyr. Yn y pen draw bydd llwyddiant ymgysylltu yn y dyfodol yn dibynnu ar hyn.
Rydym yn croesawu'r holl adborth ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phob parti yn y rhanbarth, a ledled Cymru, i ddarparu gweithlu medrus, ffyniannus a hapus.
Paul Greenwood Cadeirydd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Rhagair