Page 5 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 5

3
Crynodeb Gweithredol
Datblygwyd y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau hwn gyda'r nod o hysbysu a chefnogi ymagwedd strategol Llywodraeth Cymru tuag at ddarparu darpariaeth cyflogaeth a sgiliau.
Wedi'i datblygu gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De Orllewin a Chanolbarth Cymru, mae'r cynllun hwn yn gosod ei hun yng nghanol polisi sgiliau Llywodraeth Cymru, gan weithio i gefnogi darparu amgylchedd dysgu ôl-16 sy'n addas ar gyfer ardaloedd economaidd y Rhanbarth Dinas Bae Abertawe a Phartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru.
Mae'r Partneriaeth wedi ymgysylltu â chyflogwyr i hysbysu'r elfen alw o'r cynllun hwn. Mae dros 280 o fusnesau o bob rhan o'r rhanbarth wedi ymgysylltu â'r broses trwy arolygon, cyfweliadau, presenoldeb ar grŵpiau clwstwr neu rwydweithio.
Fydd y grŵpiau clwstwr y cyfeirir atynt uchod yn parhau i chwarae rhan ganolog wrth nodi blaenoriaethau'r diwydiant ar gyfer y rhanbarth, gyda chynlluniau wedi'u sefydlu i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau hyn trwy weithio mewn partneriaeth effeithiol gyda'r Partneriaeth a rhanddeiliaid allweddol eraill wrth i weithredu'r cynllun mynd yn eu flaen.
Blaenoriaethau Diwydiant a Nodwyd Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch ac Ynni
• Datblygu cynllun gweithredu i wella sgiliau sylfaenol gan gynnwys llythrennedd a rhifedd a'r agweddau a'r egwyddorion sydd eu hangen mewn gweithwyr newydd ar draws y sector.
• Datblygu a gweithredu strategaeth i hybu gyrfaoedd mewn peirianneg ar bob lefel, gyda chyfeiriad penodol at brentisiaethau ar bob lefel, - ôl-TGAU, ôl-lefel A ac ôl-radd, gan ddefnyddio modelau rôl i ddarlunio'r cyfleoedd sydd ar gael o fewn y sector. Cynnwys canolbwyntio ar ferched mewn peirianneg.
• Defnyddio'r modelau rôl uchod i ddarlunio sut y gellir trosglwyddo sgiliau er mwyn cydweddu'r llafur sydd ar gael â'r galw am brosiectau mawr a sut y bydd hyn yn atal dyblygu ac yn lleihau costau.
Adeiladu
• Dylid dathlu esiamplau o arfer da ar hyd a lled y rhanbarth a'u datblygu ymhellach yn hytrach nag 'ail-greu'r olwyn'. Mae rhaglen Sgiliau Adeiladu Cyfle yn un esiampl lle mae'r effeithiau cadarnhaol i ddysgwyr a busnesau hefyd wedi eu cydnabod drwy wobr y Frenhines. Dylid annog sefydliadau eraill i ymgysylltu a chefnogi'r fenter i wella darpariaeth gynaliadwy tymor hir i'r sector.
• Mae gweithdrefnau caffael yn cael effaith niweidiol sylweddol ar fusnesau bychain a chanolig. Yng ngoleuni hyn mae angen adolygiad sy'n arwain at ddull cyson o gaffael nwyddau.
• Er y cydnabyddir bod y sefydliadau proffesiynol megis syrfëwyr meintiau, penseiri ac ymgynghorwyr eraill sy'n gyfystyr â'r diwydiant adeiladu wedi cael eu categoreiddio o fewn Sector y Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol, teimlir y dylid cynnwys sefydliadau proffesiynol adeiladu o fewn y Sector Adeiladu, gan y bydd hyn yn cyd-fynd â mentrau hyfforddiant eraill yn genedlaethol megis gwefan Go Construct y CITB a'r dull lleol o brentisiaethau proffesiynol, fydd yn destun peilot ym mis Medi 2017. Mae angen cymhwyso hyn hefyd i’r contractwyr mecanyddol a thrydanol fel y gellir datblygu dull sector cyfan.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Crynodeb Gweithredol


































































































   3   4   5   6   7