Page 6 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 6
4
• Mae natur fasnachol gynyddol darparwyr addysgol wedi tynnu'r sylw oddi ar y ddarpariaeth ei hun, gyda darparwyr yn mynd yn fwy pryderus yngly^n â nifer yn hytrach nag ansawdd y dysgwyr. Byddai lliniaru'r masnacheiddio hwn yn cynyddu cydwybod gymdeithasol ac yn troi’r sylw yn ôl ar y dysgwr a datblygu cydweithrediad gwirioneddol rhwng y sector a darparwyr hyfforddiant.
• Roedd y farn yn y ‘Modernise or Die: The Farmer Review of the UK Construction labour model’ yn esbonio'r angen i'r diwydiant adeiladu newid yn unol â gofynion adeiladu gwahanol. Dylid gosod nodau cyffelyb ar gyfer y sector addysg a hyfforddiant, mewn partneriaeth gyda'r cyflogwyr adeiladu, o ran yr anghenion a nodwyd o fewn meysydd megis profiad gwaith, mentora, gweithrediadau peirianneg sifil, aml sgiliau, dilyniant prentisiaeth technegol a phroffesiynol, yr ymdrinnir â hwy ar hyn o bryd y tu allan i'r llwybrau hyfforddiant craidd traddodiadol.
Y Diwydiannau Creadigol
• Datblygu staff i symud i mewn i waith i ddatblygu sgiliau newydd.
• Sicrhau bod y cyflenwad yn ateb y galw a bod yr hyfforddiant yn ateb gofynion y diwydiant, e.e. mae
hyfforddiant TGCh yn newid yn gyflym ond nid yw'r cyflawni’n symud mor gyflym.
• Mae angen dull cyd-drefnedig rhwng Diwydiant ac Addysg ynghylch lle mae angen i'r Diwydiant fynd
a sut mae cydlynu hyn.
Bwyd a Ffermio
• Creu hyfforddiant sy'n addas i'r diben gydag elfennau pwrpasol i ateb anghenion cyflogwyr a'r diwydiant yn ei gyfanrwydd. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant parhaus a fyddai'n gymorth i gadw staff, sydd yn broblem sylweddol ar hyn o bryd.
• Mae angen i'r ffordd y mae dysgwyr a rhieni yn gweld y sector newid. Mae angen mwy o ymgysylltu ag ysgolion er mwyn sicrhau bod y sector yn cael ei bortreadu fel un sy’n llawn posibiliadau a chyfle. Byddai hyn yn denu newydd-ddyfodiaid ifanc i'r sector ac yn helpu i leddfu pwysau gweithlu sy'n heneiddio.
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Mae argaeledd nyrsys ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn faes blaenoriaeth ar unwaith, mae angen gweithredu ar hyfforddiant, recriwtio a chadw staff.
• Mae paratoi'r gweithlu gofal cymdeithasol ar gyfer eu cofrestru cyn cofrestru llawn erbyn 2020, gan gynnwys pecyn cymorth, yn flaenoriaeth.
• Gwella delwedd iechyd a gofal cymdeithasol gan gynnwys ei weld fel gyrfa werth chweil, adnabod llwybrau dilyniant gan gynnwys hybu prentisiaethau a pharatoi unigolion ar gyfer rheoli drwy recriwtio 'seiliedig ar werthoedd'.
• Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig ar gyfer darparu gofal o fewn y rhanbarth a nodwyd yr angen i godi sgiliau Cymraeg llafar.
Hamdden, Twristiaeth a Manwerthu
• Datblygu Ysgol Rhagoriaeth Gwesty mewn Lletygarwch ar gyfer y rhanbarth. Ynghyd â hyn byddai cytundeb ar safon dda o ofal ymwelwyr ar gyfer y rhanbarth a hyrwyddo hyn ar gyfer y Diwydiant Treftadaeth ac Atyniadau.
• Gwella'r cyfleoedd DPP ar gyfer staff presennol a chodi proffil y Diwydiant o fewn ysgolion.
• Dylai'r sector Addysg Bellach a'r diwydiant weithio mewn partneriaeth i ddatblygu hyfforddiant perthnasol ar gyfer y diwydiant sy'n diwallu anghenion y dysgwr, y diwydiant a'r darparwr. Drwy'r broses hon dylid ystyried
enghreifftiau o arfer da sy'n cael eu darparu yn y rhanbarth ar hyn o bryd.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Crynodeb Gweithredol