Page 8 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 8
6
Cyflogadwyedd
Mae adborth cyflogwyr yn dangos bod sgiliau sylfaenol yn bryder. Mewn llawer o achosion, mae diffyg y sgiliau hyn yn fwy cyffredin mewn newydd-ddyfodiaid ac ymadawyr ysgol ifanc.
4. Mae sgiliau sylfaenol gan gynnwys llythrennedd, rhifedd, cyfathrebu a sgiliau digidol yn parhau yn destun pryder i lawer o gyflogwyr. Y PDSR i geisio codi lefelau bodlonrwydd cyflogwyr gyda golwg ar sgiliau sylfaenol.
Mae adborth cyflogwyr yn dangos bod cyflogadwyedd unigolion ar bob lefel yn bryder.
5. Y PDSR i weithio gyda phartneriaid ar draws y sbectrwm addysg a sgiliau i wella cyflogadwyedd unigolion, gan gynnwys alinio gweithgaredd gyda rhaglen gyflogadwyedd Cymru gyfan.
Mae adborth cyflogwyr wedi nodi bod sgiliau digidol yn flaenoriaeth, gyda llawer yn wynebu anhawster wrth recriwtio unigolion â'r sgiliau a ddymunir yn y maes hwn (mae hyn yn arbennig o amlwg yn y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol). Felly mae angen gwella cyffredinrwydd sgiliau digidol ymysg dysgwyr a'r gweithlu, gan ganolbwyntio'n arbennig ar sgiliau TG a meddalwedd lefel uwch i yrru datblygiad y economi ddigidol.
6. Mae angen gwella sgiliau digidol ymhlith dysgwyr ac ar draws y gweithlu, gan ganolbwyntio ar TG lefel uwch a sgiliau meddalwedd i ysgogi datblygiad yr economi ddigidol.
Dewisiadau Dysgu a Gyrfa
Mae'r dystiolaeth a gasglwyd gan gyflogwyr a dysgwyr yn nodi bod Prentisiaethau yn cael eu deall yn wael fel cyfleoedd dysgu.
7. Cynyddu dealltwriaeth o'r cyfleoedd y mae prentisiaethau yn eu cynnig ar draws y rhanbarth a datblygu gwaith hybu wedi ei dargedu gyda chyflogwyr, dysgwyr ar bob lefel yn ogystal â rhieni a gwarcheidwaid er mwyn sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu deall.
Amlygwyd ansawdd a maint y cynnig cyfredol o gyngor gyrfaoedd a ddarparwyd i ddysgwyr fel mater gan gyflogwyr. Cefnogir hyn gan dystiolaeth y dysgwyr. Mae cyflogwyr yn teimlo bod hyn yn ffactor sy'n cyfrannu at y canfyddiad gwael a gynhelir ar hyn o bryd gan gymdeithas o rai sectorau.
8. Sicrhau bod cyngor gyrfaoedd yn haws ei gael i ddisgyblion ifanc er mwyn bod yn sail i ddewisiadau pynciau a chodi ymwybyddiaeth o gyfleoedd dysgu a gyrfaoedd posibl.
Mae llawer o sectorau'n dioddef o ganfyddiadau gwael o fathau o gyflogaeth, rolau swyddi a thâl. Mae cyflogwyr yn teimlo bod hyn ar draul denu a chadw talent newydd i'r sectorau.
9. Codi dealltwriaeth o sectorau lle y ceir problemau recriwtio a achosir gan ganfyddiadau gwael o waith yn y diwydiant.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Crynodeb Gweithredol