Page 7 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 7

Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol a TGCh
• Diogelu ar gyfer y dyfodol gyda busnesau yn cynllunio'r gweithlu'n effeithiol gyda chymorth cynlluniau tymor hir mewn addysg i gynorthwyo'u gallu i recriwtio gweithwyr newydd gyda'r sgiliau a'r wybodaeth iawn a dysgu hyblyg i'w cynorthwyo i ddatblygu eu pobl bresennol.
• Mae angen deialog gyda darparwyr hyfforddiant i sicrhau bod cynnwys y cyrsiau yn ateb galw'r diwydiant gan gynnwys elfen o ddysgu seiliedig ar waith fel bod pobl yn fwy parod ar gyfer byd gwaith.
• Hyfforddiant arweinyddiaeth ac ymwybyddiaeth fasnachol i ategu'r cymwysterau proffesiynol.
Grŵp Clwstwr Diwydiant Canolbarth Cymru
• Y flaenoriaeth bennaf yw gwella'r cynnig yn lleol yng Nghanolbarth Cymru. Fodd bynnag, hyd nes y cyflawnir hyn mae'n hanfodol i weithgaredd trawsffiniol barhau i fod ar gael i ddysgwyr. Unigolion sydd fwyaf pwysig, nid ble maent yn byw neu'n gweithio, a dylai safonau a chyllid ddarparu mecanweithiau priodol i barhau i ddarparu hyd nes y cynigir dewis gwahanol addas.
• Mae angen arloesi a gwneud pethau'n wahanol, gan gynnwys bod yn fwy hyblyg a mwy ymatebol i arloesedd a newid.
• Mae diffyg hyfforddiant priodol o safon yn lleol yn destun pryder; mae angen gosod mwy o bwyslais ar fodloni cyflogwyr a dysgwyr ac anghenion y farchnad lafur leol.
• Mae yna anhawster i recriwtio aseswyr mewn nifer o leoedd sy'n cael effaith ar y ddarpariaeth alwedigaethol sydd ar gael.
Argymhellion
Cytunwyd ar yr argymhellion a nodir yn y cynllun hwn gan gynrychiolwyr y diwydiant ac aelodau bwrdd PDSR. Bwriad yr PDSR yw mynd i'r afael â'r blaenoriaethau hyn yn weithredol trwy weithio mewn partneriaeth effeithiol gyda'r rhanddeiliaid allweddol a gynrychiolir a chynrychiolwyr y diwydiant fel y manylir arnynt yn adran 6 y cynllun.
Datblygiad Strategol
Mae'r strwythur y grw^ piau clwstwr diwydiant yn darparu adborth gwerthfawr gan gyflogwyr ac yn caniatáu ymgysylltiad effeithiol rhwng yr PDSR a chyflogwyr allweddol.
1. Bydd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol (PDSR) yn gweithio gyda'r grwpiau clwstwr a sefydlwyd, cadeiryddion grwpiau clwstwr a darparwyr i ddatblygu gweithgaredd o amgylch y meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan bob sector unigol.
Amlinellwyd nifer o brosiectau seilwaith mawr a datblygiadau allweddol sy'n cyd-fynd â meysydd economaidd DRBA a TCC a fydd yn cael goblygiadau sgiliau sylweddol i'r rhanbarth.
2. Arwain ar y cyfleoedd ar gyfer sgiliau yn rhanbarth Bargen Dinas Bae Abertawe a rhanbarth Tyfu Canolbarth Cymru hefyd.
Mae nifer o brosiectau seilwaith cenedlaethol ar raddfa fawr wedi'u nodi a fydd yn anochel yn cael goblygiadau sgiliau i'r rhanbarth.
3. Y PDSR i weithio gyda phrosiectau seilwaith cenedlaethol ar raddfa fawr er mwyn deall yr effaith ar y gweithlu rhanbarthol, gan gynnwys unrhyw effeithiau 'denu' gweithwyr.
5
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Crynodeb Gweithredol


































































































   5   6   7   8   9