Page 9 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 9

Cyfleoedd a Darpariaeth
Amlygodd cyflogwyr y grwpiau clwstwr y byddent yn hoffi Prentisiaethau i adlewyrchu eu hanghenion yn well.
10. Gwella ymgysylltiad â chyflogwyr wrth ddatblygu fframweithiau prentisiaethau, gan gynnwys lefel uwch a gradd sydd ei angen drwy fwy o fewnbwn uniongyrchol cyflogwyr a mwy o hyblygrwydd.
Amlygodd ddarparwyr a chyflogwyr anhawster datblygu darpariaeth newydd mewn rhai ardaloedd daearyddol.
11. Mae angen darparu cymorth ychwanegol i hwyluso darpariaeth newydd yn yr ardaloedd daearyddol lle nad yw'r adnoddau angenrheidiol ar gael ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys yr offer sydd ei angen a'r adnoddau addysgu i ddatblygu'r gweithgarwch gofynnol.
Mynegodd rhai cyflogwyr bryder y byddai dysgwyr ac, yn eu tro, busnesau lleol yn cael eu effeithio’n negyddol pe na bai unigolion yn gallu astudio rhywfaint o weithgaredd yn Lloegr oherwydd nawdd neu wahaniaethau mewn cymwysterau.
12. Mae angen mabwysiadu dull 'y dysgwr yn gyntaf ' mewn perthynas â myfyrwyr sy'n dewis astudio y tu allan i Gymru gyda ffocws penodol ar y rhai sy'n byw yn agos i'r ffin, neu lle nad yw'r ddarpariaeth ar gael yn fwy lleol.
Mynegodd darparwyr a chyflogwyr bryderon nad oedd y data (sy'n ymwneud â'r cynnig cwricwlwm) a ddarparwyd i'w dadansoddi yn briodol i gynnal dadansoddiad cynhwysfawr. Cyfeiriwyd yn arbennig at natur gyfun y data a'r diffyg gwybodaeth a ddarparwyd ar gyfer darpariaeth AU, lefel ysgol, darpariaeth lefel A a dysgu oedolion.
13. Mae angen gwella'r data ar gyfer dadansoddi er mwyn gwella hyder busnes a dealltwriaeth o'r ddarpariaeth.
Mae tystiolaeth yn dangos bod anghysondebau rhyw mewn perthynas â chyflogaeth mewn sectorau sydd wedi'u halinio â STEM. At hynny, mae'r un dystiolaeth yn dangos bod lefelau cyflogaeth yn y sectorau hynny yn gyffredinol yn gostwng.
14. Hybu pynciau a gyrfaoedd cysylltiedig â STEM yn gynyddol ymhlith dysgwyr ar draws pob grŵp oedran.
7
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Crynodeb Gweithredol


































































































   7   8   9   10   11