Page 86 - Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau
P. 86

84
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Argymhellion
Mae'r tabl isod yn amlinellu'r argymhellion sydd wedi cael eu datblygu ar draws yr holl sectorau diwydiant yn ogystal â'r camau angenrheidiol nesaf. Mae blaenoriaethau penodol i'r sector wedi eu nodi ar gyfer pob sector unigol a rhoddir y manylion o fewn eu proffiliau. Mae nifer o randdeiliaid allweddol posibl hefyd wedi eu nodi i gynorthwyo i weithredu'r argymhellion a'r camau nesaf. Datblygwyd yr argymhellion a'r camau nesaf i gwmpasu daearyddiaeth Dinas-ranbarth Bae Abertawe a Thyfu Canolbarth Cymru gan fod yr heriau a nodwyd yn effeithio ar y ddwy ardal.
Casgliadau
Argymhelliad
Y Camau Nesaf
Rhanddeiliaid Allweddol
Cyfeirnod
Datblygiad Strategol
1. Mae'r strwythur y grŵpiau clwstwr diwydiant yn darparu adborth gwerthfawr gan gyflogwyr ac yn caniatáu ymgysylltiad effeithiol rhwng yr PDSR a chyflogwyr allweddol
Bydd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol (PDSR) yn gweithio gyda'r grwpiau clwstwr a sefydlwyd, cadeiryddion grwpiau clwstwr a darparwyr i ddatblygu gweithgaredd o amgylch y meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan bob sector unigol.
• Nodi amserlen 1 flwyddyn ar gyfer camau nesaf proses y grwpiau clwstwr gan gynnwys cyfarfodydd ac ymgynghoriadau.
Cynrychiolwyr Diwydiant, AB, AU a Darparwyr Dysgu yn y Gweithle.
Adran 3 – Proffiliau Sectorau
2. Amlinellwyd nifer o brosiectau seilwaith mawr a datblygiadau allweddol sy'n cyd-fynd â meysydd economaidd DRBA a TCC a fydd yn cael goblygiadau sgiliau sylweddol i'r rhanbarth.
Arwain ar y cyfleoedd ar gyfer sgiliau yn rhanbarth Bargen Dinas Bae Abertawe a rhanbarth Tyfu Canolbarth Cymru hefyd.
• Parhau a chynyddu ymgysylltiad â rhanbarth Bargen Dinas Bae Abertawe a rhanbarth Tyfu Canolbarth Cymru.
Cynrychiolwyr Diwydiant, Dinas- ranbarth Bae Abertawe, Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, Prosiectau Unigol, AB, AU a Darparwyr Dysgu yn y Gweithle.
Adran 4 - Prosiectau Uchelgeisiol a Datblygiadau Allweddol
• Datblygu blaenoriaethau unigol a nodwyd gyda grwpiau clwstwr a darparwyr, gan gynnwys datblygu darpariaeth newydd lle y canfyddir anghenion.
• Monitrocynnyddynerbynblaenoriaethaugrwpiau clwstwr a datblygu targedau y cytunir arnynt.
• Ymgysylltu ag arweinwyr prosiectau i gael eglurder ar y gofynion sgiliau a nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu darpariaeth newydd.
• Sicrhau bod llwybrau'n cael eu datblygu i sgiliau lefel uwch i gefnogi dyheadau dysgwyr.


































































































   84   85   86   87   88