Page 8 - Llwybrau at eich Dyfodol
P. 8
Ar hyn o bryd mae tua 20% o gyflenwadau ynni'r DU yn dod i Brydain drwy Sir
Benfro ac mae gan Dde-Orllewin Cymru uchelgais gadarn i arwain y ffordd yn
y DU ym maes ynni adnewyddadwy dros y 10 mlynedd nesaf.
Ond beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer dewisiadau gyrfa?
Yn ôl y Grid Cenedlaethol yn y DU, mae wedi amcangyfrif bod angen iddyn
nhw lenwi 400,000 o swyddi erbyn 2050 os ydym am gyrraedd y targed Sero
Net, bydd tua 25,000 o rolau newydd ledled Cymru, ond dim ond un
sefydliad ac un prosiect yw hynny, mae yna lawer o rai eraill sydd â nifer
enfawr o swyddi.
Mae ein rhanbarth wedi dechrau'n gadarn i gyrraedd yr uchelgais o Sero Net
gyda phrosiectau eisoes ar y gweill fel:
✓ FLOW (gwynt arnofiol ar y môr)
✓ DARE yng Ngastell-Nedd Port Talbot
✓ Ynys Ynni’r Ddraig
✓ Y Ganolfan Hydrogen
✓ Prosiect Eden Las
✓ Gweithgynhyrchu Batris
✓ Gorsafoedd codi tâl EV
I enwi rhai yn unig.....
Mae nifer o gyfleoedd gwaith yn y sector hwn yn prysur ddod i'r amlwg
wrth iddo ddod yn rhan bwysig iawn o'n heconomi leol
Sut ydym yn gwybod hyn?
➢ Ynni yw'r farchnad ddatblygol gyflymaf yn y DU wrth i ni anelu at sicrhau ynni
allyriadau isel.
➢ Mae'r prinder sgiliau yn amlwg, mae maint y gwaith yn cynyddu ar raddfa
llawer cyflymach na'r cyflenwad llafur. Mae hyn yn arwain at y sector Ynni yn
hysbysebu cynnydd o 30% yn y cyflog cyfartalog ers 2020
➢ Gwynt Arnofiol ar y Môr (FLOW). Rhagwelir y bydd 104,401 o swyddi yn y DU
ym maes gwynt arnofiol ar y môr erbyn 2030
➢ Bydd cynhyrchu hydrogen, dal a dosbarthu carbon, ynni solar a gwynt ar dir
hefyd yn gofyn am ragor o weithwyr medrus.
➢ Mae mapio sgiliau'r dyfodol yn hollbwysig, llawer o grefftau newydd a
chrefftau sy'n esblygu, bydd modd troslgwyddo llawer o grefftau o / i
sectorau eraill.
A wyddech chi?
Mae'r sector ynni yn y rhanbarth yn cael ei ystyried yn sector newydd
gyda thechnolegau adnewyddadwy newydd wrth wraidd y cyfan.
Felly, mae nifer o swyddi yn dod i'r amlwg gyda sgiliau y mae'r sector
mawr eu hangen a fydd yn cynnig cyflogau da a rhagolygon gwerth
chweil oherwydd gallech fod yn gweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy.
Bydd angen swyddi i lenwi nifer o rolau amrywiol i gynorthwyo'r newid
fel:
Pa bynciau ddylwn i geisio rhagori ynddynt?
Bydd llwyddiant yn y pynciau isod yn eich rhoi
mewn sefyllfa dda ar gyfer gyrfa ym maes
Peirianneg a Gweithgynhyrchu
Mae amrywiaeth mor eang o rolau ar gael yn
y sector hwn sy'n addas i bob lefel addysg a
maes arbenigedd gyda llawer o lwybrau
prentisiaeth ar gael hefyd.
Addysg Bellach
NVQ Lefelau 1 -2:
Gallech gwmpasu'r sgiliau sydd eu hangen ar
gyfer swyddi fel Gweithwyr Peiriannau
(Craeniau, Cerbydau Nwyddau Trwm,
Cloddwyr ac ati), Gosod Rigin a Gwaith Tir
NVQ Lefel 3, 4 ac uwch: and above:
Swyddi Goruchwylio, Peirianwyr
Gwresogi/Plymio, Adeiladu Cychod, Weldio
arbenigol, Technegydd Peirianneg
Gradd Baglor:
Rheolwyr a Chyfarwyddwyr, Peiriannydd Sifil,
Gwyddonydd, Peiriannydd Trydanol,
Peiriannydd Dylunio etc
Saesneg / Cymraeg
Mathemateg
Gwyddoniaeth
Megis dechrau yw'r rhestr uchod sydd dim ond yn rhoi crynodeb byr o'r meysydd gwaith
yn y sector ond mae'n dangos ehangder y rolau sydd ar gael ac mae swyddi newydd yn
cael eu nodi a'u datblygu bob dydd, a bydd pob un ohonynt yn gofyn am sgiliau newydd,
ond yn bwysicach fyth, byddant yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer swyddi â chyflog da
a datblygiad gyrfa am flynyddoedd lawer i ddod!
Dewch yn rhan o ddyfodol iachach a gwyrddach, mae angen cyfoeth o sgiliau yn y sector
Ynni gan bobl sydd â diddordebau a chefndiroedd amrywiol i ddod at ei gilydd a sicrhau
y byddwn yn trawsnewid i fod yn Gymru gynaliadwy, felly bydd rôl sy'n addas i chi.
Daearyddiaeth
Ynni a'r Amgylchedd
Beth sydd dan sylw?
✓ Dylunio, Caffael, Tirfesur, Gwaith
Caniatâd Cynnar
✓ Asesiad Amgylcheddol / Cwmpasu
✓ Tirfesur, Dylunio, Caffael, Paratoi
Safle
✓ Ceblau, Tyrbinau / Paneli ac ati
✓ Strwythurau / Sylfeini Arnofiol
✓ Gwneuthuriad a Chydosod
✓ Gosod Ceblau, Trafnidiaeth, Is-
orsafoedd
✓ Monitro, Cynnal a Chadw,
Gweithrediadau