Page 6 - Llwybrau at eich Dyfodol
P. 6
Mae'n gamdybiaeth gyffredin bod Adeiladu yn golygu cael eich
dwylo'n fudr a gweithio mewn llefydd llaith ac oer, mewn
gwirionedd, ar gyfer llawer o rolau yn y sector hwn nid yw hyn yn
wir. Mae'r sector hwn yn lle modern, sy'n esblygu ac yn sector
deinamig i weithio gyda llawer o rolau ar gael nad ydych efallai wedi
clywed amdanynt.
Mae adeiladu wrth wraidd y chwyldro Gwyrdd cynaliadwy ac ar hyn
o bryd mae'n cynnig yr ystod fwyaf amrywiol o "Swyddi Gwyrdd"
nag unrhyw sector arall.
Mae amcangyfrifon a modelau rhagfynegi yn awgrymu y bydd
degau ar filoedd o swyddi ychwanegol yn y sector adeiladu yn
cael eu creu yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf.
Sut ydym yn gwybod hyn?
Mae'r prif feysydd gwaith o ran Adeiladu ym meysydd domestig,
seilwaith a masnachol, felly gadewch i ni edrych ar yr hyn sy'n
digwydd yn y meysydd hynny…
Pam adeiladu?
✓ Mae 22% o'r gweithlu presennol dros 50oed, ac mae 15% yn eu
60au - mae'r bwlch sgiliau ymddeol hwn yn golygu bod cyfle
enfawr i bobl ifanc lenwi'r bwlch!
✓ Gall swyddi yn y diwydiant amrywio, er enghraifft:
• Peirianneg a Chrefftau Medrus
• Rheoli Prosiectau
• Mesur meintiau a phensaernïaeth
• Dylunio Trefol / Daeareg
• Adeiladau Gwyrdd ac Asesiad Amgylcheddol
✓ Mae llawer o yrfaoedd yn cynnig rhagolygon dilyniant rhagorol,
e.e. gallai crefftwr weithio ei ffordd tuag at swydd rheolwr gan
ennill mwy na £60,000 neu hyd yn oed ddechrau ei fusnes ei hun.
✓ Nid yw pob rôl broffesiynol yn gofyn am radd, gyda llawer yn
cynnig prentisiaethau fel llwybr i'r diwydiant
Pa bynciau ddylwn i geisio rhagori ynddynt?
Bydd llwyddiant yn y pynciau isod yn eich rhoi
mewn sefyllfa dda ar gyfer gyrfa ym maes
Adeiladu.
Ôl-osod Domestig
Mae ôl-osod yn broses i ddatgarboneiddio cartrefi ac
mae’n creu galw mawr am y gwaith ar gyfer cwmnïau
adeiladu. Mae Ôl-osod Domestig yn gynllun a ariennir
gan y llywodraeth i ddatgarboneiddio cartrefi trwy
ddisodli hen systemau gwresogi tanwydd ffosil gyda
systemau gwresogi cynaliadwy ynni-effeithlon. Bydd
angen digonedd o grefftwyr medrus cymwys i
gyrraedd targedau'r Llywodraeth a byddant hefyd yn
chwarae rhan fawr wrth helpu'r amgylchedd.
Newid Ynni a Seilwaith
O bwyntiau gwefru cerbydau trydan, ffynonellau ynni
newydd, trafnidiaeth, cynlluniau gwella'r amgylchedd hyd
at ailddatblygu trefi, dinasoedd a lleoliadau ar lan yr
harbwr, mae'r rhain i gyd yn ddatblygiadau lleol sydd
wedi'u cynllunio. Bydd angen sgiliau adeiladu a gweithlu
cryf ar bob un ohonynt i adeiladu dyfodol glanach.
Addysg Bellach ac Addysg Uwch
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Lefel 1 a 2:
Byddwch yn ymdrin â'r sgiliau sydd eu
hangen yn y diwydiant adeiladu, megis
plymio, gosod brics, gwaith coed, gwaith
saer, paentio ac addurno, gwaith trydanol,
gwaith maen a phlastro.
Lefel 3 ac uwch:
Byddwch yn ymdrin â phensaernïaeth,
mesur meintiau, peirianneg strwythurol a
sgiliau rheoli prosiectau.
Gradd Baglor:
Rheolwyr Prosiectau, Peirianwyr Sifil,
Cynllunio Tref
Saesneg / Cymraeg
Mathemateg
Gwyddoniaeth
✓ Mae sgiliau adeiladu yn sgiliau craidd y gellir eu trosglwyddo, felly
gellir trosglwyddo sgiliau i sectorau eraill megis: Ynni,
Trafnidiaeth, Gweithgynhyrchu, Amaethyddiaeth, i enwi rhai yn
unig, gan gynnig opsiynau gyrfa helaeth ar gyfer y dyfodol a
darparu llawer o wahanol ddewisiadau gyrfa i chi trwy gydol eich
bywyd
✓ Cyflog cyfartalog a hysbysebir £34,000 (16% yn fwy nag yn 2021)
Digon o gyfleoedd gwaith lleol. Mae galw mawr am rolau Adeiladu
Prentisiaethau sydd
ar gael yn y sector
hwn
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Beth yw ef?