Page 4 - Llwybrau at eich Dyfodol
P. 4

Wedi drysu? Ddim yn gwybod pa fath o swydd rydych chi
ei eisiau?
Peidiwch â phoeni, mae llawer o bobl yn gweithio mewn swyddi sy'n rhoi
boddhad iddynt, swyddi nad oeddent erioed wedi dychmygu eu gwneud. Gallai
hyn fod oherwydd gwahanol ffactorau a ffordd o fyw.
Yr elfen allweddol os nad ydych chi wedi penderfynu beth i'w wneud, yw cadw
eich opsiynau’n agored, felly bydd gennych fwy o opsiynau i ddewis o’u plith yn
ystod eich taith gyrfa.
Bydd yr adran hon yn canolbwyntio ar sgiliau, swyddi a meysydd pwnc a fydd yn
rhoi sgiliau trosglwyddadwy craidd i chi sydd eu hangen ar bob cyflogwr.
Cymwyseddau Craidd
Mae cymwyseddau craidd yn sgiliau bywyd pwysig rydych chi'n eu
hennill wrth i chi dyfu. Nid ydynt yn gymwysterau addysgol
ffurfiol, ond yn hytrach galluoedd hanfodol rydych chi'n eu
datblygu trwy brofiadau bywyd, hyfforddiant ychwanegol, a
hunan-ddysgu.
Er nad ydynt yn gymwysterau ffurfiol, mae cyflogwyr yn gweld y
cymwyseddau hyn fel sgiliau hanfodol a byddant yn
blaenoriaethu recriwtio ar sail lefel cymwyseddau craidd yr
ymgeisydd, e.e. os oes gan 2 ymgeisydd sy'n cystadlu ar gyfer 1
rôl yr un sgiliau a chymwysterau, bydd y cyflogwr fel arfer yn
cynnig y rôl i'r ymgeisydd sydd â lefel uwch o gymwyseddau
craidd.
Enghreifftiau o gymhwysedd craidd:
➢ Rhifedd
➢ Llythrennedd a deall cyfarwyddyd ysgrifenedig /
llafar
➢ Cyfathrebu
➢ Gwasanaeth Cwsmeriaid
➢ Hyder
➢ Datrys Problemau / Meddwl Creadigol
➢ Cynllunio a Threfnu
➢ Arweinyddiaeth
➢ Ymagwedd dda at waith a gallu rhoi sylw i
fanylder
➢ Diwydrwydd
➢ Cymhelliad cryf
➢ Prydlondeb a Dibynadwyedd
➢ Gwybodaeth ddigidol sylfaenol (rhaglenni
cyfrifiadurol craidd ar gyfer swyddfa)
Er na fydd pawb yn hyderus bod ganddynt y
cymwyseddau hyn ac mae llawer ohonynt yn dod
drwy brofiad bywyd, mae'n bwysig fodd bynnag, eich
bod yn ceisio eu dangos i gyflogwyr trwy gyfeirio at
brosiectau ychwanegol, diddordebau ac ati i
ddangos bod gennych y cymwyseddau craidd
perthnasol sydd eu hangen arnynt.
Sut ydw i'n ennyn Cymwyseddau Craidd trwy brofiad?
Mae sawl ffordd o wneud hyn:
✓ Profiad Gwaith Twf Swyddi Cymru: Twf Swyddi Cymru Plws | Working Wales
Os ydych chi'n astudio ar gyfer llwybr mwy academaidd neu'n dal heb
benderfynu ar eich dyfodol, bydd ennill profiad mewn diwydiant
gwasanaeth fel manwerthu, lletygarwch, hamdden neu sefydliad
elusennol, yn rhoi'r profiad gwerthfawr hwnnw i chi y mae cyflogwyr yn
chwilio amdano. Bydd diwydiannau gwasanaeth yn aml yn cynnig rolau
rhan-amser neu amser llawn i gyd-fynd a'ch bywyd a gwaith presennol.
Diwydiannau gwasanaeth sy'n cynnig y profiad busnes mwyaf cyflawn o
ran cymhwysedd craidd.
✓ Y Celfyddydau Perfformio
Beth am roi cynnig ar rai diwydiannau creadigol? Does dim rhaid i chi
astudio'r pwnc yn ffurfiol; gallech wirfoddoli mewn clwb drama / clwb
celfyddydau perfformio lleol neu ymuno â chôr / band. Bydd hyn yn rhoi
sgiliau hybu hyder hanfodol i chi yn ogystal â sgiliau cynllunio, paratoi,
gwaith tîm a meddwl creadigol
✓ Chwaraeon a hobïau tîm neu grŵp
Mae chwaraeon (gan gynnwys esports, a chwarae gemau fideo fel tîm) a
hobïau grŵp, i gyd yn weithgareddau y byddwch chi'n ennyn
cymwyseddau craidd hanfodol ynddynt, megis gwaith tîm, rhoi sylw i
fanylion, cynllunio, strategaethau a datrys problemau. Nid oes rhaid i
chi gystadlu mewn chwaraeon / hobïau gallech chwarae rôl gefnogi
hanfodol. .
Mae cyrsiau hyfforddi Ffit i Waith ar gael
ledled y rhanbarth a fydd yn helpu i wella
cymwyseddau craidd, gwiriwch a ydynt ar
gael yn eich coleg lleol neu'ch darparwyr
hyfforddiant.























   2   3   4   5   6