Page 2 - Llwybrau at eich Dyfodol
P. 2
Helo
Beth sydd dan sylw?
Ydych chi'n ystyried opsiynau gyrfa a diddordeb mewn darganfod pa
sgiliau a swyddi y mae galw mawr amdanynt nawr ac yn y dyfodol? Os
felly, gadewch in ni agor y drws a'ch cyflwyno i'r hyn sy'n digwydd yn
Ne-orllewin Cymru.
Ond yn gyntaf, mae angen i ni gadarnhau un ffaith, nid oes rhaid i chi
adael y rhan wych hon o'r byd i wireddu eich uchelgais, mae digon yn
digwydd ac mae llawer o gyfleoedd ar gyfer eich dyfodol yma ar garreg
eich drws.
Nod y canllaw hwn yw tynnu sylw at y cyfleoedd gwych hyn gan roi
cipolwg ar sut y gallwch ymuno ag economi leol ffyniannus sy'n tyfu
ac adeiladu gyrfa gydol oes yn gwneud rhywbeth rydych chi'n ei garu.
Mae'r byd gwaith yn newid yn gyflym, ac os ydych chi'n ystyried
opsiynau gyrfa nawr, yna byddwch ar flaen y gad yn y chwyldro
diwydiannol newydd sy'n magu momentwm ar hyn o bryd.
Chwyldro Diwydiannol 2.0
O ddatblygiadau cyfrifiadurol fel Deallusrwydd Artiffisial (AI), Realiti
Rhithwir, Realiti Estynedig, Dronau a Roboteg, a fydd yn effeithio ar
bob sector o fewn y blynyddoedd nesaf, i'r trawsnewidiad ynni lle
rydym yn newid o danwydd ffosil i systemau cynaliadwy, a fydd hefyd
yn cael effaith ar bob busnes a sector. Ynghyd â hyn mae galw'r gan
gwsmeriaid yn newid yn barhaus, sy'n golygu y bydd swyddi, sgiliau a
chymwyseddau yn newid ac o ganlyniad, bydd llawer o gyfleoedd
newydd yn dod i'r amlwg sy'n cynnig rolau â sgiliau uchel a chyflog
uchel mewn swyddi efallai nad ydych erioed wedi eu hystyried.
Sut ydych chi'n gwybod am yr holl
gyfleoedd hyn?
Sut mae'r canllaw hwn yn fy helpu?
Pam ddylwn i eich credu chi? / Pam ddylwn i wrando?
Cwestiynau da, gadewch i ni gyflwyno ein hunain. Ni yw'r
Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol (PDSR), ac rydym yn
datblygu dealltwriaeth glir o anghenion sgiliau'r diwydiant nawr ac yn
y dyfodol drwy ddadansoddi Gwybodaeth am y Farchnad Lafur a
gweithio'n agos gyda Darparwyr Addysg, y Llywodraeth a'r Diwydiant i
nodi anghenion sgiliau De-orllewin Cymru, yna rydym yn sicrhau bod
llwybrau gyrfa clir ar gael ar gyfer y rolau hynny. Rydym yn gwneud y
gwaith hwn ar draws 4 sir:
✓ Castell-Nedd Port Talbot
✓ Abertawe
✓ Sir Gaerfyrddin
✓ Sir Benfro
Mae'r Bartneriaeth yn gweithio gyda diwydiant i nodi anghenion o ran
sgiliau a bylchau ac yn dylanwadu ar Addysg Bellach; Addysg Uwch
ac Ysgolion i gyflwyno cyrsiau a hyfforddiant i fodloni anghenion y
diwydiant a rhagolygon gyrfa lleol. Felly, hoffai'r Bartneriaeth rannu'r
wybodaeth sydd gennym, i'ch helpu i wneud dewisiadau da ar gyfer
eich dyfodol.
Mae cyfoeth o wybodaeth ar gael, llawer gormod i gynnwys popeth yn
y canllaw hwn, ond mae dolenni yn y canllaw y gallwch eu dilyn i
ddarganfod mwy.
Jane Lewis
Rheolwr y Bartneriaeth Dysgu
a Sgiliau Rhanbarthol
Cynnwys
Tudalen 2-3
Cyflwyniadau
Tudalennau 4-5
Wedi drysu?
Tudalennau 6-21
Cipolwg ar y Sector
Diwydiant
Tudalennau 22-23
Opsiynau a Dolenni
defnyddiol