Page 3 - Llwybrau at eich Dyfodol
P. 3
Er mwyn cyrraedd targedau Sero Net y DU, cynigir y systemau ynni
cynaliadwy amgen canlynol ar gyfer y rhanbarth. Mae llawer o'r
prosiectau isod eisoes yn digwydd a bydd angen gweithlu cryf
arnynt am flynyddoedd lawer i ddod.
✓ FLOW (Gwynt arnofiol ar y môr) Sir Benfro
✓ DARE Castell-nedd Port Talbot
✓ Ynys Ynni'r Ddraig
✓ Y Ganolfan Hydrogen
✓ Prosiect Eden Las
✓ Gweithgynhyrchu Batris
✓ Gorsafoedd Gwefru Cerbydau Trydan
✓ Adweithyddion niwclear micro
Pethau Newydd yn Ne-orllewin Cymru
Porthladd Rhydd
3 Amcan Porthladd Rhydd:
• Adfywio a chreu swyddi o ansawdd da
• Hwb ar gyfer masnach a buddsoddiad byd-eang
• Amgylchedd arloesol
Beth mae hyn yn ei olygu?
11,500 o swyddi newydd dros y 15 mlynedd nesaf yn
y meysydd canlynol:
➢ Ynni Adnewyddadwy a Dal Carbon
➢ Gweithgynhyrchu / Arloesi / Ymchwil a
Datblygu
➢ Porthladdoedd a logisteg forol
➢ Amgylchedd Adeiladu / Adeiladu /
Datblygu Porthladdoedd
➢ Lletygarwch a Hamdden
➢ Digidol
Trawsnewid Ynni a Sgiliau Gwyrdd
Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae'r holl systemau ynni newydd hyn yn dechnoleg
newydd, felly, mae angen gweithlu medrus newydd
i'w gweithredu a'u rhoi ar waith, a gallai hyn olygu
chi.
Yr amcangyfrif , o ran FLOW yn unig yw y bydd tua
100,000 o swyddi yn cael eu creu ar draws y DU.
Beth ydyw?
Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am Statws Porthladd Rhydd ar
gyfer Castell-nedd Port Talbot ac Aberdaugleddau, gall De-
orllewin Cymru bellach gystadlu am fasnach a buddsoddiad
byd-eang, gan greu miloedd o swyddi newydd
Rheilffordd
Mae cynlluniau datblygu ar waith ar gyfer metro a fydd
yn diweddaru systemau rheilffyrdd De-orllewin Cymru,
yn ogystal â thrydaneiddio'r rheilffordd bydd y
datblygiad hwn yn darparu cyflogaeth hirdymor ar gyfer
y camau caniatâd ac adeiladu hyd at weithredu’r
gwasanaeth hwn yn y dyfodol yn dilyn ei uwchraddio.
Y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar
gyfer Rheilffyrdd
Yn y camau olaf o gael ei gymeradwyo, mae'r Ganolfan
ar fin dod yn ganolfan profi rheilffyrdd byd-eang sy'n
anelu at gyflogi dros 4,000 o bobl ar draws llawer o
wahanol ddisgyblaethau sgiliau, o Letygarwch (mae
cynlluniau ar gyfer gwesty ar y safle) i grefftau medrus
(trydanwyr, offer a pheiriannau i adeiladu rheilffyrdd) i
Ymchwil a Datblygu (sgiliau gwyddonol a STEM).
Porthladdoedd / Morwrol
Gyda phrosiectau Porthladdoedd Rhydd a FLOW, bydd
porthladdoedd a seilwaith morwrol yn cael eu gosod i
lansio'r prosiectau hyn. Bydd y gwelliannau i'r
Porthladd yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth am
flynyddoedd lawer i ddod.
Trafnidiaeth a Seilwaith
Yma gallwn archwilio rhai o'r pethau cyffrous sy'n dod
i'r rhanbarth a fydd yn darparu miloedd o swyddi
amrywiol a chyffrous.