Page 18 - Lein Calon Cymru - Gwneud a Gwerthu
P. 18

.......................................
Farmgate2kitchenplate
Siop fferm ac ystafell
de ym mryniau
Sir Faesyfed. Mae’n
gwerthu cig a chynnyrch
yn uniongyrchol o’r
fferm.
www.farmgate2kitchenplate.com
farmgate2kitchenplate@gmail.com
Thomas Shop
Amgueddfa yw’r siop
hon sy’n cynnig profiad
diwylliannol wrth hel
atgofion am siopau’r
gorffennol a rhoi cyfle i
ymwelwyr ifanc gysylltu
â’r gorffennol. Mae celf,
crefftau a doniau lleol
i’w gweld yn orielau’r
Golchdy a’r Ystafell Smwddio. Mae’r Siop De
groesawgar yn gwerthu cinio ysgafn a danteithion
cartref wedi’u gwneud o gynhwysion lleol.
www.thomas-shop.co.uk
Thomas Shop, Pen-y-bont, Powys LD1 5UA
Mae’r daith gerdded gylchol 6.2km
o hyd o orsaf Llangynllo fel camu yn ôl
mewn amser.
Mae’n ymlwybro’n bennaf drwy lonydd gwledig
ac ar draws caeau â gwrychoedd hynafol, wedi
gordyfu. Mae’r daith yn ôl yn mynd ar hyd darn byr
o Ffordd Glyndŵr. Gellir ymestyn y daith i mewn i’r
pentref sydd 2.2km o’r orsaf.
Llangynllo i
Ben-y-bont drwy
Dolau a
Heol Llanbister
Wrth deithio drwy’r cymunedau
gwledig, hardd efallai y bydd
eich clustiau yn cau wrth i ni
gyrraedd man uchaf y lein yn
Llangynllo. Mae’r bryniau yn
llawn defaid yn pori, ac mae’r
golygfeydd o’r dirwedd wyllt
yn wych. Mae Fforest Clud,
cartref y ddraig olaf yng
Nghymru yn ôl y sôn, yn
ymestyn i’r de – lle gwych
i fynd am dro, yn llawn
rhostiroedd, coed ac
afonydd.
16















































   16   17   18   19   20