Page 20 - Lein Calon Cymru - Gwneud a Gwerthu
P. 20

Llandrindod
Mae’r dref ffynnon hon, sy’n
cael ei hadnabod yn lleol fel
Llandod, yn fwrlwm o
weithgaredd. Gallwch fynd ar y
pedalos draig ar y llyn i geisio
darganfod y bwystfil dŵr neu
gael hwyl mewn canŵ neu
badlfyrddio. Ond os yw’n well
gennych aros ar dir sych, beth
am ymweld â’r Amgueddfa
Seiclo Cenedlaethol, dysgu
am hanes y Rhufeiniad yn
Amgueddfa Sir Faesyfed,
neu fynd am dro drwy’r
coetiroedd i’r Tŷ Pwmp
Fictoraidd yn Rock
Park.
3D Heroes
Mae 3D Heroes yn
argraffu, adeiladu a
phaentio modelau 3D
o gymeriadau.
obiyoda1967@gmail.com
.......................................
.......................................
Lucy Burden Art
Mae Lucy yn paentio
tirluniau a morluniau
trawiadol, atmosfferig
sy’n llawn symudiad a
llyfnder. Mae hi’n hoff
iawn o baentio cefn
gwlad Canolbarth Cymru
ac arfordir Ceredigion.
Cafodd Lucy ei henwebu
ar gyfer rhestr hir Gwobr Gelf Jackson ac mae hi
wedi arddangos ei gwaith ledled Cymru.
www.linktr.ee/LucyBurden
LucyBurdenArt1@outlook.com
The Wood Turning Studio
Eitemau wedi’u
gwneud â llaw o
glociau, powlenni a
madarch, llygod a
goleuadau i setiau a
byrddau gwyddbwyll.
Defnyddir pren lleol
lle bo’n bosibl. Cynigir
cyrsiau turnio coed a
derbynnir gwaith comisiwn.
Rhif ffôn 07732 183540
Uned 5, Gweithdai Hen Neuadd y Dref,
Llandrindod, Powys
18












































   18   19   20   21   22