Page 24 - Lein Calon Cymru - Gwneud a Gwerthu
P. 24
Llanwrtyd
Mae Llanwrtyd yn enwog am
fod y dref leiaf ym Mhrydain,
ac am gynnal digwyddiadau
chwaraeon anghyffredin fel
Snorcelu Cors a’r Ras Dyn yn
erbyn Ceffyl. Mae’n ganolfan
ar gyfer gweithgareddau awyr
agored fel cerdded, nofio
gwyllt, beicio mynydd ac
e-feicio, merlota, gwylio adar
a saethyddiaeth. Dewch i
fwynhau’r siopau unigryw,
tafarnau bywiog, bragdy lleol
a rhaglen o ddigwyddiadau
amrywiol yn y Ganolfan
Dreftadaeth a
Chelfyddydau.
Canolfan Dreftadaeth a
Chelfyddydau
Llanwrtyd a’r
Ardal
Cynnyrch lleol ac organig,
anrhegion, nwyddau
cartref, teganau,
cyflenwadau anifeiliaid
anwes a cheffylau,
gwinoedd cain a dillad gwledig ail-law. Mae’r
siop groesawgar ar agor am oriau hir bob diwrnod.
Rhif ffôn 01591 610259
Beulah Rd, Llanwrtyd, Powys LD5 4RF
.......................................
.......................................
MSB Press
Mae Paul Rickard yn creu
printiadau cerfweddol,
intaglio a lithograffeg
gwreiddiol yn ei stiwdio
yn Llanwrtyd. Mae ei
ddiddordeb mawr mewn
archaeoleg yn ei ddenu
at adeileddau yn y
dirwedd. Mae celf
graffeg a gwaith darlunio’r 20fed ganrif yn
ddylanwad mawr ar ei waith.
www.paulrickard.art
paulrickard.art@gmail.com
Caffi Sosban
Caffi clyd yng nghanol
Llanwrtyd, ar agor 6
diwrnod yr wythnos ar
gyfer brecwast, cinio a
the prynhawn. Gall cŵn
fwynhau ‘puppuccino’
yn yr ardd ar lan yr
afon.
Rhif ffôn 07407 118314
Ty Barcud, Y Sgwâr, Llanwrtyd LD5 4RB
22

