Page 26 - Lein Calon Cymru - Gwneud a Gwerthu
P. 26

.......................................
Elaine Jones Art
Hen gerbyd trên yw
stiwdio Elaine, yn y
bryniau rhwng
Cynghordy a
Llanymddyfri. Mae’r
golygfeydd hardd o’i
chwmpas yn ysbrydoli
ei gwaith, sy’n cynnwys
tirluniau atmosfferig,
morluniau, blodau, bywyd gwyllt a phaentiadau
haniaethol, unigryw.
www.elainejonesart.bigcartel.com
elainejonesart@gmail.com
Mae taith gerdded gylchol
5km yn arwain o orsaf
Cynghordy i olygfan uwchben
Traphont Cynghordy.
Yna mae’r llwybr yn troelli i lawr felly
gallwch gerdded o dan y bwâu trawiadol
cyn croesi afon Bran.
www.heart-of-wales.co.uk/cy/cynghordy
Dinas y Bwlch
a Chynghordy
Ar gopa Dinas y Bwlch mae'r
trên yn plymio i mewn i dwnnel
tywyll hir drwy'r bryniau, cyn i
olygfeydd gwych gyfarch
teithwyr ar yr ochr arall.
Ymhellach ar hyd y daith,
mae’r trên yn croesi Traphont
hardd Cynghordy. Gallwch
gerdded drwy’r pentref a dilyn
y ffordd fach o dan y draphont
i gael golygfa wych o’r
campwaith peirianyddol
hwn.
24
.......................................
The Carbon Community
Mae The Carbon
Community wedi sefydlu
adnodd yng Nghoedwig
Glandwr uwchben
Cynghordy lle gall
gwyddonwyr
amgylcheddol brofi’r
wyddoniaeth dal a storio
carbon ddiweddaraf
ar raddfa fawr. Dyma’r astudiaeth dal a storio
carbon fwyaf, a’r fwyaf cynhwysfawr, yn y DU,
ac mae o arwyddocâd byd-eang.
www.carboncommunity.org













































   24   25   26   27   28