Page 28 - Lein Calon Cymru - Gwneud a Gwerthu
P. 28
Pethau Pawb
Pam prynu pan allech
chi fenthyca? Gallwch
arbed arian, lle ac
amser trwy fenthyca’r
hyn mae ei angen
arnoch, o gemau mawr
ac offer parti i lanhawyr
carpedi ac offer trwsio
beiciau, mae popeth ar
gael yma!
www.pethaupawb.ynnisirgar.org
5 Stryd Cerrig, Llanymddyfri SA20 0BX
.......................................
.......................................
Books at the Dragon's Garden
Siop lyfrau annibynnol
sydd wedi ennill gwobrau
ac sy’n arbenigo mewn
llyfrau natur, ffuglen
gyfoes a chlasurol,
gydag adran blant a
llawer mwy. Mae’n
gwerthu rygiau
masnach deg, blancedi,
clustogau ac anrhegion, ynghyd â chasgliad
o gardiau hyfryd, ac mae oriel fach yma hefyd.
www.dragons-garden.com
9, Stryd Fawr, Llanymddyfri SA20 0PU
Replay Vintage
Dillad a hen bethau o
gyfnod a fu, Carpedi,
Gemwaith, Cerameg,
Darluniau, Llyfrau a
llawer mwy.
3 Stryd Cerrig, Llanymddyfri SA20 0BX
26
Llanymddyfri
Hen dref y porthmyn yw
Llanymddyfri, canolbwynt
bywyd gwledig, ac mae
sgwâr y farchnad hardd
wedi’i amgylchynu ag
adeiladau Sioraidd llawn
cymeriad. Mae pob math o
siopau, bwytai a siopau crefft
yng nghanol y dref. Mae
adfeilion y castell, sy’n dyddio
o’r 13eg ganrif a cherflun
Llywelyn ap Gruffydd yn
edrych i lawr ar y dref.

