Page 30 - Lein Calon Cymru - Gwneud a Gwerthu
P. 30
.......................................
Gigi's Bakery
Popty cartref, yn
gwerthu pob math
o gacennau, gan
gynnwys rhai di-glwten.
Rhif ffôn 07904 613592
Gaylenicholls66@gmail.com
Drefach Fibre Flock
Defnyddir cnu hyfryd
praidd o ddefaid sydd
o Wlad yr Iâ yn bennaf
i wneud matiau ffelt a
charthenni hardd, heb
fawr ddim prosesu.
Mae Lisa hefyd yn
prynu cnu am bris teg
gan ffermydd cyfagos
i wehyddu matiau bach sy’n addas i’w
defnyddio yn yr awyr agored.
Rhif ffôn 07900 908391
lisadenison2@gmail.com
Llwybr rhif 13 Lein Calon Cymru
Llangadog i Landeilo.
Mae’r darn hwn o’r Llwybr yn ymuno â Ffordd
y Bannau gan ddringo’n araf i bentref tawel
Bethlehem ac yna’n uwch i un o geiri mwyaf
Cymru, sef Garn Goch.Yna mae’r Llwybr yn mynd
i lawr rhiw drwy borfeydd brwynog i Goed Tre-gib
ac ymlaen ar draws dolydd afon Tywi i Landeilo.
www.heart-of-wales.co.uk/cy/trail-routes
28
Llanwrda
a Llangadog
Wrth i’r rheilffordd ddilyn
afon Tywi i gyfeiriad Llandeilo,
mae’n mynd drwy Llanwrda a
Llangadog ar ochr orllewinol
Parc Cenedlaethol Bannau
Brycheiniog. Mae Llangadog
yn bentref tlws gyda bwytai
croesawgar a llwybrau
cerdded hyfryd gyda
golygfeydd godidog o’r
Mynydd Du.

