Page 44 - Lein Calon Cymru - Gwneud a Gwerthu
P. 44

.......................................
.......................................
Marchnad Abertawe
Marchnad dan do
Fwyaf Cymru a Marchnad
dan do Orau Prydain
2024! Mae’r farchnad
arobryn hon yn cynnig
profiad siopa a bwyta
unigryw. Mae yma
ddewis gwych o
stondinau arbenigol
yn gwerthu popeth o gynnyrch ffres, lleol a
bwyd blasus i anrhegion unigryw. Addas i gŵn.
www.swanseaindoormarket.co.uk
swansea.market@swansea.gov.uk
Swansea Albert Hall
Neuadd fwyd fwyaf
Abertawe - gyda llawer
o werthwyr bwyd stryd
annibynnol ac unigryw,
mae rhywbeth yma at
ddant pawb. Mae Albert
Hall yn cynnig cymysgedd
o fwyd stryd, bariau,
digwyddiadau bywiog,
Jungle Play, busnesau lleol a hyd yn oed gwesty
mewn lleoliad cymunedol ffyniannus.
www.albert-hall.co.uk
enquiries@albert-hall.co.uk
Mae Partneriaeth
Rheilffyrdd Gymunedol
De-orllewin Cymru
Cysylltiedig yn cael ei
chynnal gan 4The Region.
Mae’n hybu mwy o ddefnydd o wasanaethau
rheilffordd drwy annog cymunedau lleol i ymwneud
â’u rheilffordd a thrwy gynnal pob math o weithgareddau yn
y gorsafoedd a’r ardaloedd cyfagos er mwyn dod â
manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i
drigolion y rhanbarth ac ymwelwyr. www.southwestwales.co
Abertawe
Ym mhen deheuol y lein
byddwch yn cyrraedd dinas
arfordirol Abertawe. Mae
digonedd o bethau i’w gweld
a’u gwneud yma, o ddysgu am
hanes diwydiant ac arloesedd
yng Nghymru yn Amgueddfa
Genedlaethol y Glannau i gael
hwyl yn y tonnau yn LC2.
I fwynhau gwynt y môr, gallwch
fynd am dro ar hyd y Bae i’r
Mwmbwls, neu ddal bws i
ardal hyfryd Penrhyn Gŵyr.
Ffotograff © Hawlfraint y Goron
- © Crown copyright (2022)
Cymru Wales
42








































   42   43   44   45   46