Page 46 - Lein Calon Cymru - Gwneud a Gwerthu
P. 46

Y Bartneriaeth
Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru yn bodoli er
mwyn cysylltu’r gymuned â’i rheilffordd. I weld sut rydym yn gwneud hyn,
dilynwch ni ar Facebook ac Instagram @heartwalesline
Dyma rai o’n prosiectau diweddaraf:
• Darparu teithiau cerdded tywysedig gyda grwpiau fel Mind Canolbarth
a Gogledd Powys, ac Unity in Diversity.
• Casglu ffotograffau ac atgofion pobl am y lein i ddathlu Rheilffordd 200
a fydd yn cael eu harddangos yn ystafell aros Gorsaf Llandrindod.
• Bid llwyddiannus am arian gan Gyngor Sir Powys i osod 19 o focsys
plannu newydd mewn gorsafoedd ym Mhowys.
Partneriaeth achrededig yw Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon
Cymru. Mae’r system achredu yn cael ei gweinyddu gan y Rhwydwaith
Rheilffyrdd Cymunedol ac mae’n gymwys i’r Partneriaethau Rheilffyrdd
Cymunedol sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr.
Mae'n gydnabyddiaeth ffurfiol gan yr Adran Drafnidiaeth (DfT) a Llywodraeth
Cymru bod Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol yn gweithredu i safon uchel ac
yn meddu ar amcanion a gweithgareddau y mae’r Llywodraeth yn eu cefnogi.
Gymunedol Lein Calon Cymru yn goruchwylio gweithgareddau a chynllun
busnes y bartneriaeth. Mae'r grŵp llywio yn cynnwys amrywiaeth eang o
unigolion a sefydliadau sy’n aelodau gan gynnwys Gweithredwyr Trafnidiaeth,
Llywodraeth Leol, Sefydliadau Rheoli Cyrchfannau, Busnesau Lleol a
Chynghorau Gwirfoddol Sirol. Rydym yn cael ein hariannu gan Trafnidiaeth
Cymru, er ein bod yn annibynnol. Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys
(PAVO) yw’r mudiad sy’n ein cynnal. PAVO yw Cyngor Gwirfoddol Sirol Powys,
sy’n cefnogi’r trydydd sector ledled y sir.
44








































































   44   45   46   47   48