Page 47 - Lein Calon Cymru - Gwneud a Gwerthu
P. 47
Rheilffyrdd Cymunedol
Mudiad llawr gwlad ym Mhrydain yw
rheilffyrdd cymunedol ac mae’n cynnwys
partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a
grwpiau sy’n mabwysiadu gorsafoedd.
Gan weithio gyda phartneriaid lleol, rhanbarthol,
a chenedlaethol mae Partneriaethau Rheilffyrdd
Cymunedol yn ymgysylltu â chymunedau ac yn
hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, llesiant
cymunedol, datblygiad economaidd, a theithio
cynaliadwy. Maent hefyd yn cydweithio â gweithredwyr
trenau i wella ac adfywio gorsafoedd. Mae’r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol
yn cynnig cymorth a chyngor trwy eu haelodaeth, gan gysylltu partneriaethau
rheilffyrdd cymunedol a grwpiau, tra’n gweithio gyda’r llywodraeth, y diwydiant
rheilffyrdd, a’r sector gwirfoddol a chymunedol ehangach i hyrwyddo rheilffyrdd
cymunedol.

