Page 7 - Lein Calon Cymru - Gwneud a Gwerthu
P. 7

5
Gwneud a Gwerthu
Rydyn ni’n fwy na rheilffordd â golygfeydd godidog. Ar hyd Lein Calon Cymru,
mae gwneuthurwyr a gwerthwyr unigryw – busnesau lleol sydd wedi gwreiddio’n
ddwfn yn eu cymunedau. Mae Gwneud a Gwerthu yn dod â’r cymunedau hyn at
ei gilydd, gan annog cysylltiadau newydd a mentrau cydweithredol.
Nwyddau ar Hyd y Lein
Mae Nwyddau ar Hyd y Lein yn dathlu a hybu’r gwneuthurwyr a’r gwerthwyr drwy
arddangos eu cynnyrch a’u busnesau ar ein gwefan, mewn digwyddiadau
rhwydweithio, a thrwy gynnal stondinau mewn marchnadoedd a gwyliau lleol.
Darganfod mwy!
Ewch i’n gwefan i weld y dewis diweddaraf o fusnesau lleol ger
y rheilffordd. Cynlluniwch daith siopa, ymweliad â stiwdio
gwneuthurwr, neu brynu bwyd o ansawdd yn uniongyrchol gan
gynhyrchwyr lleol. Os ydych chi’n wneuthurwr neu’n fasnachwr,
ymunwch â’n cymuned drwy sganio’r cod QR a llenwi’r ffurflen
ar waelod ein tudalen gwe.
© Dominic Vacher

















































































   5   6   7   8   9