Page 8 - Lein Calon Cymru - Gwneud a Gwerthu
        P. 8
     .......................................
.......................................
Neuadd y Farchnad Amwythig
Mae Neuadd y Farchnad
Amwythig wedi ennill
llawer o wobrau ac
mae’n cynnig profiad
siopa a bwyta unigryw
gyda chyfuniad bywiog
ac eclectig o grefftau a
nwyddau anghyffredin,
wedi’u gwneud â llaw.
Mae yma dros 60 o werthwyr, sy’n ymfalchïo
yn eu hannibyniaeth a’u harloesedd.
www.shrewsburymarkethall.co.uk
Rhif ffôn 01743 351067
Shrewsbury Arts & Crafts
Mae emporiwm
Shrewsbury Arts &
Crafts yn gwerthu
casgliad o nwyddau
lleol, artisan, unigryw
sydd wedi’u dethol yn
ofalus i adlewyrchu
natur eclectig Amwythig
a Sir Amwythig.
shrewsburyartsandcrafts@gmail.com
Perches House, Windsor Place, Amwythig
Green Options Zero Waste
Green Options yw siop
ail-lenwi ac eco gyntaf
Amwythig ac mae’n
gwerthu bwyd sych a
hylifau i’r cartref i’w
hail-lenwi yn ogystal â
nwyddau i’r cartref y
gellir eu hailddefnyddio.
www.greenoptionszerowaste.co.uk
greenoptionszerowaste@gmail.com
6
Amwythig
Tref boblogaidd iawn, sy’n
cael ei hedmygu nid yn unig
am ei hen bensaernïaeth hardd
a’i strydoedd canoloesol, ond
hefyd am y dewis eang o
siopau modern ac annibynnol.
Mae lleoedd bwyta gwych
yma at ddant pawb, arlwy
theatr a chelfyddydau cyffrous,
profiadau hanesyddol a
diwylliannol bywiog a gwyliau
stryd drwy gydol y flwyddyn.






