Page 3 - Tyfu'r Dyfodol
P. 3
Rhagair
Daw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) i rym ym mis Ebrill 2016. Mae'r Ddeddf hon yng Nghymru yn unigryw yn y ffaith y bydd yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ddangos sut y maent yn cyfrannu at Gymru fwy cynaliadwy a gallai arwain at Gymru'n cael ei thrawsnewid gan gyfleoedd newydd i dyfu ar draws cenedlaethau, boed hynny mewn rhandiroedd, ysgolion, prifysgolion, tir ysbytai neu dir gwag.
Mae'r Ddeddf newydd yn annog cymunedau ledled Cymru i feddwl yn fwy cynaliadwy er mwyn creu 'y Gymru a Garem' a gallai hynny olygu tyfu llawer mwy o gynnyrch yn lleol. Ar hyn o bryd, ychydig iawn o'r bwyd a gynhyrchir
yng Nghymru sy'n cael ei dyfu'n lleol, ond eto fel rhywun a adawodd y ddinas
i redeg tyddyn 10 acer 5 mlynedd yn ôl, rwyf eisoes yn anelu at fod yn rhannol hunangynhaliol ar y tir – drwy help 3 rhewgell, sied storio wedi’i wneud o
garreg a 2 dwnnel polythen. Rydym hefyd wedi canfod bod tyfu a phrynu
cynnyrch lleol yn ffurfio cyswllt cryf â'n heconomi a'n cymunedau lleol; yn ein hannog i brynu mwy o'n bwyd yn lleol ac yn ei dymor, ac yn gwneud i ni feddwl sut y gallwn reoli ein hecosystem yn gynaliadwy. A minnau ar fy nhaith dyfu fy hun, roeddwn yn falch iawn pan ofynnodd Dr Rosie Plummer i mi gadeirio'r Grŵp Llywio ar gyfer prosiect cyffrous 'Tyfu'r Dyfodol' a sefydlwyd yn 2012.
Beth fyddai'n annog tyfwr newydd i gydio mewn fforch? Mae cymaint mwy
o ddiddordeb mewn bwyd yn ei dymor yn awr, felly mae pobl yn fwy na pharod i fwyta cynnyrch lleol pan fyddant yn bwyta allan, ond nid ydynt yn
sylweddoli y gallent ei dyfu gartref.
Bu'r prosiect hwn yn un cyffrous ac amrywiol a chynhaliwyd amrywiaeth eang o gyrsiau newydd a rhaglenni trwy Gymru o dyfu i docio i gadw gwenyn a chyfrannodd y cyfranogwyr dros 18,500 o oriau.
Wedi'r cyfan, beth allai fod yn well na dechrau gweithgaredd sy'n rhoi eich ffrwythau a'ch llysiau ffres eich hun i chi ac yn arbed arian i chi ar siopa bwyd,
a hefyd, yn ôl ein cyfranogwyr, yn cynyddu bodlonrwydd bywyd, ymarfer corff a lefelau bywiogrwydd, cysylltiadau â'r ddaear a theulu, ac yn cryfhau cysylltiadau yn y gymuned leol.
Mae'r prosiect hwn wedi rhagori ar ei holl dargedau ac felly fel Grŵp Llywio, diolch yn fawr iawn i dîm Tyfu'r Dyfodol am ei holl waith caled ac i'm cydweithwyr ar y Grŵp Llywio am eu cymorth a'u cyngor rheolaidd. Dywedodd cyfranogwyr y cyrsiau eu bod yn gyrsiau da/ardderchog ac mae awydd am ragor.
Mae prinder mawr mewn hyfforddwyr garddwriaethol o hyd; nid oes digon o bobl ifanc yn dewis garddwriaeth fel gyrfa ac nid oes digon o bwyslais ar werth tyfu bwyd yn lleol. Mae hyn yn her i addysgwyr a thyfwyr. Mae aelodau'r Grŵp Llywio bellach yn awyddus i weithio gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i sicrhau bod negeseuon y prosiect yn cael eu trosglwyddo i
wneuthurwyr polisi fel bod y prosiect yn sbarduno chwyldro tyfu yng Nghymru.
Dr Jane Davidson
Dirprwy Is-ganghellor Cyswllt, Cynaliadwyedd ac Ymgysylltu Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant. Cadeirydd Grŵp Llywio Tyfu'r Dyfodol.
3