Page 4 - Tyfu'r Dyfodol
P. 4
Tyfu Eich Ffrwythau Eich Hun
• Tyfu Coed Ffrwythau Organig yng Nghymru
• Ffrwythau Meddal i Ddechreuwyr
• Plannu Perthi Ffrwythau
• Ble i Ddechrau efo Ffrwythau
• Impio Coed Ffrwythau
• Yn Hollol Ymarferol ‒ Ffrwythau Meddal
Cyrsiau Tyfu'r Dyfodol
Dros 3 blynedd (2012-2015) mae'r prosiect wedi darparu cyrsiau i dros 5400 o gyfranogwyr, o arddwyr newydd i arddwyr profiadol ar draws Cymru. Gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn hwb, mae'r cyrsiau hefyd wedi'u darparu gan dîm o hyfforddwyr medrus a brwdfrydig iawn mewn lleoliadau ym Mangor, Hwlffordd, Llanbedr Pont Steffan, Abertawe, Caerdydd, Conwy, y Bont-faen, Dinbych a Llanidloes.
Bu'r amrywiaeth eang o bynciau sydd ar gael yn addas ar gyfer pob lefel ac roeddent yn cynnwys pob math o bethau o "Sut i Ddechrau Tyfu Eich Bwyd Eich Hun" ar gyfer dechreuwyr i gyrsiau ar gyfer y rheini sydd â llai o fynediad at ardd (e.e. "Tyfu Cynnyrch Bwytadwy mewn Potiau a Chynhwysyddion") a sesiynau sy'n canolbwyntio ar dyfu'n organig, gwrtaith gwyrdd, compostio a hyd yn oed cadw ieir a gwenyn. Yn ogystal
â natur noddedig y sesiynau, mae'r pynciau a'r dull hyblyg o'u darparu (e.e. amseru a daearyddiaeth) wedi rhoi'r cyfle i gynulleidfa mor eang â phosibl, h.y. sbectrwm eang o oedrannau a galluoedd, gymryd rhan mewn cyrsiau Tyfu'r Dyfodol. Er enghraifft, yn ystod gwyliau ysgol, mae grwpiau teulu wedi mwynhau cymryd rhan mewn cyrsiau rhyngweithiol ac mae'r rhain yn ysbrydoli plant iau i gymryd rhan, a thyfu eu ffrwythau a'u llysiau ein hunain trwy'r sesiwn boblogaidd iawn “Tyfwch Fi, Bwytwch Fi, Hwyl I’r Teulu Cyfan”.
Mae'r prosiect wedi datblygu gofod tyfu ymarferol ar gyfer cnydau ac arddangosiadau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (gardd a chae tyfu prosiect Tyfu'r Dyfodol) ac mae hefyd wedi darparu cyfleusterau ystafell ddosbarth i gefnogi dysgu. Mae pob un o'r hybiau ledled Cymru gyfan wedi cynnig ei amgylchedd unigryw iawn ei hun i ymgysylltu â chyfranogwyr a'u hysbrydoli.
4
Cynllunio a Dylunio Eich Gardd
• Blwyddyn Mewn Twnnel Polythen
• Sut i Greu Gardd Twll Clo
• Dylunio Gardd Fwytadwy Greadigol
• Tyfu Creadigol Mewn Mannau Bach
• Sut i Ddechrau Tyfu Eich Bwyd Eich Hun
• Hugelkultur ‒ Creu Gwely sy'n Compostio
• Cyflwyniad i Arddio mewn Coedwig
Cwrs 1 Diwrnod
• Cyflwyniad i Arddio mewn Coedwig Cwrs 2 Diwrnod
• Gerddi Twll Clo
• Cyflwyniad i Paramaeth
“ Mae'r prosiect wedi canolbwyntio ar sefydlu a darparu cyrsiau byr fforddiadwy a hawdd eu deall. ”
Tyfu Eich Llysiau Eich Hun
• Yn Hollol Ymarferol: Winwns a Garlleg
• Yn Hollol Ymarferol: Llysiau Gwyrdd Dwyreiniol
• Yn Hollol Ymarferol: Pys a Ffa
• Yn Hollol Ymarferol: Tatws
• Yn Hollol Ymarferol: Cnydau Gwraidd
• Yn Hollol Ymarferol: Salad a Chnydau Deiliog
• Cyflwyniad i Dyfu Ffyngau
• Tyfu Cnydau Anarferol
• Tyfwch Eich Cynnyrch Eich Hun mewn Blwyddyn
“Bu'n fantais fawr dysgu gwybodaeth arddio bwysig ar eich cwrs, ac ers hynny rydym wedi sefydlu rhandir yn Llandeilo ac rydym yn awyddus i ddysgu rhagor. ” Julie Griffith.