Page 6 - Tyfu'r Dyfodol
P. 6

E-ddysgu
Mae'r cyrsiau ymarferol a ddarparwyd gan y prosiect wedi'u hategu gan dros ugain o “gyrsiau” ar-lein – pob un ar gael yn ddwyieithog ac yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys fideos, animeiddiadau a deunyddiau i'w lawrlwytho.
Bu'r adnoddau ar-lein, sydd wedi'u llunio i fod, yn anad dim, yn hawdd eu defnyddio er mwyn annog pobl i'w defnyddio, wedi bod yn amhrisiadwy i bobl nad ydynt yn gallu mynd ar gyrsiau yn ogystal â'r rheini y mae angen cymorth ychwanegol a chefndir arnynt.
Mae'r cyrsiau ar-lein, sydd wedi denu dros 1200 o ymweliadau, wedi agor y drws i ddysgu popeth am “dyfu eich cnydau eich hun” i'r rheini na allent fynd i gyrsiau, ac wedi cynorthwyo dysgu'r rheini sy'n ymgymryd â sesiynau ymarferol. Mae'r ddau bwnc ar hugain wedi darparu help ymarferol hawdd ei gymathu i dyfwyr cartref/graddfa fach/cymunedol ynghyd â mynediad anghyfyngedig am ddim i adnoddau dysgu ar-lein ar adeg ac mewn lle cyfleus iddyn nhw.
Mae cyfranogwyr prosiect Tyfu'r Dyfodol a'r gynulleidfa ehangach hefyd wedi ymgysylltu â'r prosiect trwy ei bresenoldeb ar Facebook a Twitter, ac mae 3000 o bobl o'r gymuned yn cadw mewn cysylltiad trwy gael yr wybodaeth ddiweddaraf, manylion am gyrsiau a gwybodaeth ddefnyddiol trwy'r cyfrwng digidol.
Llwyddiannau'r Prosiect
Prosiect Peilot oedd Tyfu'r Dyfodol sydd wedi datblygu'n sylweddol o'r allbynnau y cytunwyd arnynt yn wreiddiol â chyllidwyr y Prosiect yn ôl yn 2012.
Rhagorwyd ar yr holl dargedau ac mae'r tabl isod yn amlinellu nifer sylweddol y cyfranogwyr
y mae'r prosiect wedi ymgysylltu â nhw; nifer cynyddol y cyrsiau sydd wedi'u datblygu ac effeithiolrwydd darparu'r cyrsiau trwy Gymru. Nid yw'r allbynnau hyn ond yn rhan o'r budd y mae'r prosiect wedi'i roi i bobl Cymru; mae tudalen nesaf yr adroddiad hwn yn amlinellu'r Effaith Gymdeithasol y mae'r prosiect hwn wedi'i chael ac y bydd yn parhau i'w chael am gryn amser i ddod.
Yr allbynnau sydd a
gwblhawyd ac a
Allbynnau'r hawliwyd hyd at Allbwn Prosiect ddiwedd mis Mehefin
Cyrsiau
a ddyluniwyd
43
45
Cyrsiau a gynhaliwyd yn yr Ardd
145
184
Cyrsiau a gynhaliwyd – hybiau
245
413
Cyfanswm cyfranogwyr y cyrsiau
3750
5422
Cyfanswm oriau'r cyfranogwyr
15000
18513
Cyfanswm yr E-gyrsiau oedd ar gael
22
22
Cyfanswm cyfranogwyr yr e-gyrsiau
1100
1254
Cyrsiau Ar-lein
Cyflwyniad i Gadw Gwenyn
Denu Pryfed o Fudd
Dewis a phlannu coeden ffrwythau
Cylchdroi cnydau
Ymestyn eich tymor tyfu
Ble i ddechrau efo ffrwyth
Impio coed ffrwythau
Gwrteithiau Gwyrdd
Tyfwch fi, Bwytwch fi, Hwyl i'r Teulu Cyfan
Tyfu cynnyrch bwytadwy mewn potiau a chynhwysyddion Tyfu cynnyrch bwytadwy o dan orchudd
Tyfu cnydau anarferol Cynaeafu a chadw cnydau Perlysiau i ddechreuwyr Garddio Twll Clo
Rheoli Pla yn Naturiol
Arbed Hadau yn yr ardd lysiau
Sut i Ddechrau Tyfu Eich Bwyd Eich Hun Tocio ffrwyth yn yr haf
Cymorth ar gyfer eich cnydau Rhyfeddodau Compost
Tocio yn y Gaeaf
6


































































































   4   5   6   7   8