Page 5 - Brecon v Crymych
P. 5

for the latest news go to
www.breconrfc.co.uk
Tymor Newydd o heriau mewn
tiriogaethau anghyfarwydd ...
Diolchwn i’r Aelodaeth am roi’r cyfle hwn i ni yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol diweddar yn
cynnwys nifer teilwng ohonynt, ac rydym ni’n ymwybodol o’r ffaith fod y Clwb yn canfod ei
hun mewn sefyllfa o fod wedi mwynhau llwyddiannau ar y maes chwarae, ac oddi arno, yn
ystod y blynyddoedd diweddar.
I ryw raddau, cododd y cyfleoedd hyn yn sgil
ymddeoliad ein Cadeirydd diweddar, Paul
Amphlett. Mae Paul wedi bod yn rhan annatod
o’r llwyddiant y mae’r clwb wedi ei fwynhau yn
sgil ei arweinyddiaeth gref wrth hyrwyddo’r
adran Iau a Minis, a hefyd wrth helpu i lywio’r
clwb ar ei daith drwy Strwythur Cynghrair URC.
Rydym yn ddyledus iddo.
Yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol, un o’r
penderfyniadau sylfaenol a wnaed oedd yr un
mewn perthynas â sut mae’r clwb yn strwythuro’i
hun, a’r model gweithredu y mae’n dewis ei
ddefnyddio wrth adeiladu ar y llwyddiannau
hynny. Roedd y rhesymwaith y tu ôl i hynny’n
adlewyrchu safle’r Clwb yn Strwythur y
Gynghrair gyda’r angen i ddarparu cyfle i wella
a datblygu’n barhaus i’n Haelodau sy’n
Chwarae, a’r angen am sylfaen fasnachol fel ein
bod ni’n gallu gweithredu mewn marchnad sy’n
gynyddol heriol ar gyfer ein gweithgareddau
oddi ar y cae, ac mewn ffordd nad yw’n
gwanhau’r profiadau cadarnhaol presennol y
mae defnyddwyr y Ty Clwb yn eu mwynhau.
Eto i gyd, mae ein hymrwymiad i ddarparu
cyfle i aelodau sy’n chwarae i geisio bod y gorau
gallant fod yn eu chwaraeon dewisol yn
parhau’n swyddogaeth graidd i ni, waeth beth
yw eu rhywedd, oedran neu allu. Rydym ni’n
hynod o falch o dwf cynyddol y niferoedd sy’n
chwarae - o’r plant O Dan 7 i fyny at yr Uwch
sgwad.
O ran yr elfen olaf hon, canfyddwn ein hunain
mewn tiriogaethau anghyfarwydd o ran y clwb,
sef sefyllfa sy’n rhagori ar yr hyn a gyflawnwyd
gan Glwb Rygbi Aberhonddu drwy gydol y
150+ o flynyddoedd o’i fodolaeth. Ar y cyd â’r
anwybod cyfredol a ddaw o’r safle dyrchafedig
pleserus hwn yn Strwythur y Gynghrair, mae’r
ffaith y byddwn ni bellach fel Tîm yn mynd ati i
chwarae yng Ngorllewin y Pencampwyr.
Cawn y cyfle ffantastig i ymweld â phorfeydd
newydd siroedd gorllewinol Penfro, Sir Gâr a
Cheredigion, yn ychwanegol at wibdeithiau i
Abertawe, Port Talbot a Chymoedd Tawe,
Aman a Llynfi.
Mae’r grwp Hyn wedi bod yn gweithio’n
galed iawn yn hyfforddi cyn dechrau’r tymor o
dan arweiniad y Cyfarwyddwr Rybgi, Dale
Mackintosh, a’i dîm hyfforddi a chefnogi
medrus. Mae lefel dechnegol uchel yr
hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu gan y
grŵp hwn ar y cyd ag ymdrechion ymroddedig
y sgwad chwarae yn angenrheidiol i alluogi ein
timau i gael y sgiliau angenrheidiol a’r lefelau
ffitrwydd i fwynhau eu heriau newydd ar y maes
chwarae. Mae’r Clwb yn parhau’n ymroddedig
i gefnogi uchelgais ein Uwch Grŵp Chwarae,
ac edrychwn ymlaen at brofiadau newydd
cadarnhaol ar hyd ein taith ddiweddaraf.
































   3   4   5   6   7