Page 6 - Brecon v Crymych
P. 6

Ni ellir dianc rhag y ffaith fod cyfeiriad y Timau
Hŷn yn darparu model ac ysbrydoliaeth i’n
haelodau iau sy’n chwarae, ac mae’r uchelgais
gasgliadol hon a’r ymroddiad at ‘achos’ Aber-
honddu’n parhau’n hanfodol i alluogi’r Clwb i
symud ymlaen mewn sawl ffordd.
Croesawn a diolchwn am ymdrechion yr holl
hyfforddwyr a rhieni sy’n hebrwng ein haelodau
iau ar hyn y bryd, o dan gyfarwyddyd Al Taylor,
ac edrychwn ymlaen at weld parhad i’r dalent
dros y blynyddoedd nesaf.
Fel erioed, mae llwyddiant a gweithrediad y
Clwb yn gynaliadwy’n unig drwy ymroddiad
parhaus ein corff o Aelodau ac edrychwn
ymlaen at weithio â phawb i gynnal y llwyddiant
a’r mwynhad hwnnw.
Yn yr un modd, mae’n dyled ni’n fawr i
gefnogaeth a haelioni’n Noddwyr, am eu
bod yn parhau’n gonglfaen o ran galluogi
cyfleoedd i gael eu darparu i’r Aelodau sy’n
Chwarae, o bob oed.
Wrth edrych ymlaen yn eiddgar at ein
hymweliadau â phorfeydd newydd, rydym
ni’n gobeithio y byddwch chi’n parhau i
gefnogi’r tîm, ac yn yr un modd, edrychwn
ymlaen at groesawu wynebau newydd i Barc
de Pugh, a gwneud ffrindiau newydd drwy
gydol y tymor. Edrychwn ymlaen at eich
croesawu chi i’n tref ac i’n Clwb, ac rydym
ni’n siwr y byddwch yn cael mwynhad a blas
ar Sir Frycheiniog o dan ofal Sharon a’i staff
yn y Tŷ Clwb.
Yn olaf, diolchwn yn ddiffuant i’r holl
wirfoddolwyr eraill sy’n rhoi o’u hamser i
gefnogi’r Clwb, a gobeithio y gwelwn ni lawer
mwy ohonoch chi yn ystod y tymor.
Julian Edwards
Llywydd, Brecon RFC.





























































   4   5   6   7   8