Page 23 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 23

 6. Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
7. Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
2.4 Brexit
• Cefnogi'r Gymraeg trwy gynyddu’r ddarpariaeth sydd ar gael a mynediad i ddysgwyr.
• Gweithio gyda sefydliadau partner i hybu'r iaith a'r defnydd ohoni.
• Cefnogi twf cynaliadwy a brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd trwy hybu sgiliau technoleg werdd a dulliau arloesol o gyflenwi sgiliau.
• Gweithio gyda sectorau unigol i nodi'r anghenion sgiliau sy'n perthyn i bolisi carbon isel Cymru er mwyn sicrhau bod gan fusnesau’r adnoddau sydd eu hangen i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn.
23
     Nid yw effeithiau Brexit ar ein heconomi, cymunedau a phobl yn gwbl eglur, ond mae'n bosibl gwneud rhai tybiaethau ar sail gwybodaeth bresennol am y farchnad lafur. Mae dangosfyrddau awdurdodau lleol sydd wedi'u creu ar gyfer Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi casglu nifer o ffactorau i'w hystyried. Nodir y rhai mwyaf dybryd isod:20
  Dinas Ranbarth Bae Abertawe
1. Ganwydcyfraniselo'rboblogaethynyr Undeb Ewropeaidd (2.76%), sy'n cymharu â chyfartaledd ar gyfer Cymru o 3.02%. (Abertawe sydd â'r gyfran uchaf, Castell-nedd Port Talbot sydd â'r gyfran isaf.)
2. Castell-neddPortTalbotsyddâ'rsgôruchaf ar fynegai bregusrwydd Brexit, gyda lefelau uchel nodedig o bobl â sgiliau isel neu heb gymwysterau ynghyd â diweithdra uchel ac incwm isel.
3. Maeganyrhanbarthgyflogaethsy'nuwch na'r cyfartaledd o fewn y sectorau ‘crefftau modur’ a ‘cyfanwerthu a manwerthu’, sydd wedi'u nodi fel y diwydiannau sy'n wynebu'r ‘perygl mwyaf’.
Mewnfudo a Rhyddid i Symud
Tyfu Canolbarth Cymru
Ganwyd cyfran gymharol isel o'r boblogaeth yn yr Undeb Ewropeaidd (2.93%). Mae gan Geredigion a Phowys lefelau eithaf cyferbyniol ar gyfer preswylwyr a aned yn yr Undeb Ewropeaidd, ar 4% a 2.31% yn ôl eu trefn.
Mae gan y ddau awdurdod lleol lefelau bregusrwydd sydd o dan y cyfartaledd, ond mae Ceredigion yn dangos lefelau uchel o gyflogaeth mewn swyddi elfennol ac mae gan y ddwy ardal lefelau incwm sy'n eithaf isel a allai beri risg yn dilyn Brexit.
Mae gan y rhanbarth lefel uchel iawn o gyflogaeth o fewn y sectorau ‘amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota’ (6%), sydd llawer yn fwy na chyfartaledd Cymru (1.1%). Dyma un o'r sectorau sy'n wynebu'r ‘perygl’ mwyaf.
       Mae'r Papur Gwyn Mewnfudo yn nodi’r newidiadau mwyaf sylweddol i ddeddfwriaeth mewnfudo ers degawdau. Y newid mwyaf arwyddocaol yw'r cynnig i ychwanegu dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn uniongyrchol i'r system bresennol sy'n seiliedig ar bwyntiau o dan yr hyn a adnabyddir fel ‘Haen 2 ar gyfer
20 https://www.wlga.wales/resources-local-authority-brexit-exposure-dashboards
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi














































































   21   22   23   24   25