Page 25 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 25

 25
 Heb os, bydd goblygiadau ehangach Brexit yn gosod pwyslais ar rôl sefydliadau addysg uwch o fewn eu rhanbarthau priodol a dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y dylai prifysgolion ‘ailgydio ac ailddyfeisio [eu] cenhadaeth ddinesig’ o ganlyniad i Brexit. Gwnaeth darn o waith a gomisiynwyd gan Brifysgolion Cymru archwilio hyn, gan nodi pedwar maes y gallai prifysgolion gyfrannu atynt, sef newidiadau yn yr economi, newidiadau yn y gweithlu, newidiadau mewn cymdeithas yn gyffredinol a chynnydd o ran anghydraddoldeb.
Gan adeiladu ar gryfderau prifysgolion Cymru, mae'r darn yn dangos pedair rôl bosibl y gallai prifysgolion eu cyflawni:
• Fel sefydliadau ‘angor’ i gryfhau economïau lleol a rhanbarthol
• Fel canolfannau arbenigedd i gefnogi arloesedd o bob math
• Fel canolfannau dysgu hyblyg
• Fel cyfartalwyr23
2.5 Cyngor ac Arweiniad ar Yrfaoedd a Phrofiad Gwaith
Mae gan gyngor ac arweiniad ar yrfaoedd y grym i newid cwrs bywyd unigolion, sy'n cadarnhau pwysigrwydd sicrhau bod gan bobl ifanc (gan ddechrau ar oedran ysgol gynradd) fynediad at gyngor cynrychioliadol ac ystyrlon yn ystod pob cam o'u haddysg. Nid yn unig y bydd yn cael effaith ar ganlyniadau bywyd ond y mae hefyd yn arwain at oblygiadau arwyddocaol ar gyfer symudedd cymdeithasol a chydraddoldeb rhywiol. Archwilir y themâu hyn ymhellach yn y proffiliau sector unigol.
Canfu adroddiad blaenllaw, a ysgrifennwyd ar y cyd gan addysgwyr a chyflogwyr, y canlynol:
• Mae patrwm y swyddi a ddewisir gan blant saith oed yn adlewyrchu'r rhai a ddewisir gan bobl 17 oed.
• Mae stereoteipio swyddi o ran rhyw wedi'i osod o oedran ifanc.
• Y teulu, teledu, radio a ffilmiau sy'n cael y dylanwad mwyaf ar ddewisiadau plant.
• Mae gan ddyheadau gyrfa plant ychydig iawn yn gyffredin ag anghenion gweithlu arfaethedig, a allai arwain
at oblygiadau difrifol ar gyfer economi'r dyfodol. Byddai hyn yn awgrymu, er gwaethaf ymdrechion gorau nifer o sefydliadau ac ymyriadau amrywiol gan y llywodraeth, fod her yn parhau i ddenu unigolion at sectorau lle mae gwir angen. 24
Mae ymchwil gan y Bartneriaeth yn dangos bod canfyddiad ynghylch sector penodol wedi'i nodi fel her gan 16% o ymatebwyr yr arolwg. Fodd bynnag, cafodd ei drafod yn fanwl o fewn sesiynau grŵp clwstwr, lle y daeth i'r amlwg ei fod yn amlwg yn fater o bwys ac yn rhwystr i recriwtio a chadw unigolion a ddymunir mewn diwydiannau penodol. Roedd y diwydiannau lle roedd hyn yn fwy cyffredin yn cynnwys rhai ym meysydd adeiladu, gweithgynhyrchu a pheirianneg, bwyd ac ar y tir, iechyd a gofal cymdeithasol, a hamdden a thwristiaeth.
Mae'r materion yn ymestyn ymhellach na chanfyddiadau am sectorau, gan ymestyn at lwybrau dysgu go iawn fel prentisiaethau. Nid yw prentisiaethau yn cael eu hyrwyddo yn gyfartal fel dewisiadau dichonadwy ar gyfer unigolion sydd am ennill cymwysterau. Mae tystiolaeth uniongyrchol a gasglwyd gan y Bartneriaeth a thystiolaeth eilaidd a gasglwyd yn dangos bod cyflogwyr yn chwilio am ddysgwyr â mwy o sgiliau ymarferol a meddal nad ydynt yn credu bod dysgwyr sy'n astudio llwybrau dysgu eraill yn eu cael ar hyn o bryd. Mae mater parodrwydd am waith yn cael ei archwilio ymhellach yn adran 3.
23 https://41ydvd1cuyvlonsm03mpf21pub-wpengine.netdna-ssl.com/wp-content/uploads/2018/09/ After-Brexit-HE-report-final-with-covers.pdf
24 https://www.educationandemployers.org/drawing-the-future-report-published/
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi















































































   23   24   25   26   27