Page 26 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 26

 26
 Profiad Gwaith
Mae colli profiad gwaith yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith niweidiol ymddangosiadol ar ddysgwyr a'u parodrwydd am waith. Yn 2012, cwblhaodd 90% o ddisgyblion 14-18 oed ledled Cymru leoliad gwaith, ond amlygodd adroddiad Estyn a gyhoeddwyd yn 2017 nad oedd unrhyw ddisgyblion wedi cymryd rhan mewn profiad gwaith neu leoliadau gwaith yn 29% o ysgolion.
Yn ogystal, mae dirywiad y ‘swydd dydd Sadwrn’ yn dwysáu’r heriau a berir trwy golli profiad gwaith. Yn 1997, roedd 42% o fyfyrwyr 16-17 oed yn gweithio yn ogystal. Dirywiodd y ffigur hwn yn sylweddol i 18% yn unig yn 2014. Os yw’r duedd wedi parhau, bydd y ffigur hyd yn oed yn llai erbyn hyn. Mae hwn yn fater o bwys am ei fod yn golygu bod llai a llai o bobl ifanc yn cael unrhyw brofiad o'r byd gwaith cyn mynd i mewn i'r llafurlu. Mae hyn yn gosod mwy o bwysau ar y cyflogwr i'w darparu â'r sgiliau hynny y byddent wedi dechrau datblygu yn ystod eu swydd ran-amser neu brofiad gwaith.
Yn ogystal, mae tystiolaeth yn awgrymu’r canlynol:
• Mae'r rheini sy'n cyfuno gwaith ag addysg amser llawn yn 4-6% yn llai tebygol o fod yn NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) pum mlynedd yn ddiweddarach na’r rheini sydd mewn addysg yn unig.
• Maent yn fwy tebygol hefyd o ennill fwy na'r rheini sydd mewn addysg amser llawn yn unig, gyda phremiwm o 12-15%.25
Mae'r dystiolaeth hon yn awgrymu bod y Bartneriaeth yn iawn i fod yn angerddol am gryfhau'r cysylltiadau rhwng addysg a diwydiant. Mae hyn yn amlwg o'r nifer o argymhellion a wnaed mewn blynyddoedd blaenorol (ac eleni) yn benodol ynghylch cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd.
Mae'r Bartneriaeth yn ymgysylltu â dysgwyr yn rheolaidd er mwyn hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y rhanbarth. Mae nifer o adnoddau wedi cael eu datblygu i gynorthwyo â hyn, gan gynnwys;
• Hoelio Sylw ar Dde-orllewin a Chanolbarth Cymru (fideo a phoster)
• Ffeithluniau am sectorau
• Prentisiaethau ‘ar gipolwg’
Caiff yr adnoddau hyn eu cyflwyno trwy gysylltiadau uniongyrchol â'r ysgolion, trwy gydgysylltwyr 14-19, a thrwy fynd i'r nifer fawr o ffeiriau gyrfaoedd a gynhelir ar draws y rhanbarth.
2.6 Cyflogadwyedd
Mae'r Bartneriaeth yn gweithio ochr yn ochr â'r Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol i gynorthwyo â'r gwaith o weithredu Cymru'n Gweithio a Chymorth Gwaith Cymru trwy'r Grŵp Cyflogadwyedd Rhanbarthol. Mae'r grŵp hwn yn darparu fforwm y gall prosiectau cyflogadwyedd rhanbarthol presennol ei ddefnyddio i gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r ddwy raglen, i nodi rhwystrau mae cleientiaid yn eu hwynebu, ac i rannu anghenion sgiliau cyflogwyr.
Mae'r sgiliau cyflogadwyedd canlynol wedi cael eu nodi trwy ddefnyddio'r dystiolaeth gan gyflogwyr, gan gynnwys trwy arolwg y Bartneriaeth a grwpiau clwstwr, yn ogystal â gwaith ymgysylltu â'r Grŵp Cyflogadwyedd Rhanbarthol.
Sgiliau Meddal
Mae tystiolaeth eilaidd yn dangos bod y galw am sgiliau rhyngbersonol a dadansoddol gan gyflogwyr yn cynyddu. Mae ymchwil sylfaenol a gasglwyd gan y Bartneriaeth yn cefnogi'r syniad hwn ac mae cyfran gynyddol o gyflogwyr yn gosod mwy o bwyslais ar yr angen am yr hyn a elwir yn ‘sgiliau meddal’.
 25 Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau – The Death of the Saturday Job (2014)
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi















































































   24   25   26   27   28