Page 28 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 28

 28
 Mae'r Bartneriaeth yn cefnogi'r safbwynt y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fabwysiadu wrth gydnabod bod angen i'r rhaglenni hyn fod ar gael yn fwy eang er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn elwa ac mae’n gweld ei rôl fel cysylltu ysgolion a busnesau yn y rhanbarth mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer pawb.
2.8 Addysg Bellach
Mae'r rhanbarth yn gartref i'r sefydliadau addysg bellach canlynol, sy'n cwmpasu chwe sir, sef:
• Coleg Sir Gâr / Coleg Ceredigion – sy'n gwasanaethu siroedd Sir Gaerfyrddin a Cheredigion
• Coleg Gŵyr Abertawe
• Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot – a grëwyd yn dilyn uniad Coleg Castell-nedd Port Talbot
a Choleg Powys
• Coleg Sir Benfro
Mae ymgynghoriad gyda'r darparwyr hyn wedi dangos bod yr holl bartïon sy'n gysylltiedig yn natblygiad y cynllun hwn yn cytuno ar y cyfan ynghylch rhai o'r materion mwyaf dybryd sy'n amharu ar y dirwedd addysg yn y rhanbarth.
Cyngor ac Arweiniad ar Yrfaoedd
Mae darparwyr yn cytuno bod y diffyg canfyddedig o ran cyngor ac arweiniad annibynnol a chynrychiadol ar yrfaoedd a ddarperir i ddysgwyr yn gyfrannwr allweddol i’r lefelau isel o ymgysylltu â rhai meysydd pwnc penodol. Yn ogystal, mae darparwyr yn amlygu'r ffaith fod newid canfyddiadau rhieni, gwarcheidwaid a dylanwadwyr yn allweddol er mwyn newid tueddiadau cychwyn a ddangoswyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn cynnwys dangos i bawb sy'n gysylltiedig y mathau o lwybrau dysgu sydd ar gael, e.e. dysgu academaidd, galwedigaethol ac yn y gwaith, a'r lefelau a phwyntiau mynediad amrywiol sydd ar gael.
Modelau Darparu
Awgrymodd nifer o ddarparwyr y gallai newid i’r hyn a ystyrir i fod y flwyddyn academaidd draddodiadol, h.y. o fis Medi i fis Gorffennaf, gynnig mwy o hyblygrwydd wrth ddarparu, er mwyn ddiwallu anghenion dysgwyr posibl a chyflogwyr yn eu tro. Yn ogystal, hoffai darparwyr gael yr hyblygrwydd i archwilio ffurfiau mwy arloesol o ddarparu, a allai gynnwys y defnydd o blatfformau digidol, darpariaeth fyrrach a thynnach, a defnyddio cyfnod yr haf. Byddai hyn, i raddau, yn helpu i leddfu'r pryderon a godwyd gan gyflogwyr ynghylch natur gaeth y ddarpariaeth, asesiadau a chynnwys.
Mae anghenion penodol sydd angen eu hystyried o ran darparu ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Hoffai darparwyr weld mwy o hyblygrwydd o ran cynnwys cyrsiau ac asesu’r cymwysterau hyn yn enwedig.
Yn ogystal, hoffai rhai darparwyr weld mwy o hyblygrwydd o ran integreiddio cyflogadwyedd trwy brofiad gwaith ymarferol gyda chyflogwyr a dysgu cyfunol ar gyfer pobl 16 oed mewn mwy o sectorau.
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi


















































































   26   27   28   29   30