Page 30 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 30

 30
 Mae gan Gymru'r cyfraddau boddhad myfyrwyr cyffredinol uchaf yn y DU ac, ar ben hynny, mae gan Gymru'r ganran uchaf o ymchwil o'r radd flaenaf yn y DU yn nhermau effaith, yn ôl ymarfer diweddar ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.29 Gwelodd sefydliadau'r rhanbarth gyfanswm o 38,885 o gofrestriadau yn ystod blwyddyn academaidd 17/18 (heb gynnwys y Brifysgol Agored, a welodd 6,915 o gofrestriadau ledled Cymru). Mae hwn yn gynnydd o 4% ar ffigurau'r flwyddyn academaidd flaenorol.
Mynediad at Addysg Uwch mewn Addysg Bellach
Mae addysg uwch hefyd yn cael ei darparu yn yr amgylchedd addysg bellach ac mae grŵp Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a'r Bartneriaeth Sgiliau Prifysgol Coleg (CUSP) wedi gweithio i ddatblygu meysydd darpariaeth newydd. Mae'r ymagwedd hon yn cynorthwyo dysgwyr i symud ymlaen i addysg uwch yn eu sefydliadau addysg bellach presennol a hefyd yn cynorthwyo â darparu mwy o argaeledd daearyddol i ddarpariaeth addysg uwch. Gwelodd y rhanbarth 260 o unigolion yn dilyn rhaglenni addysg uwch mewn sefydliadau addysg bellach yn ystod blwyddyn academaidd 17/18. Mae'r Bartneriaeth yn cefnogi'r gwaith hwn gan ei fod yn darparu llwybrau cynnydd pwysig i ddysgwyr yn y rhanbarth.
Gradd-brentisiaethau
Mae'r Bartneriaeth yn cefnogi'n llawn y gwaith hyd yma i ddatblygu gradd-brentisiaethau ym meysydd peilot peirianneg, TGCh a gweithgynhyrchu uwch. Fodd bynnag, mae yna gyfleoedd i ehangu'n sylweddol y defnydd posibl o radd-brentisiaethau i sectorau eraill, yn ogystal ag ehangu'r ddarpariaeth beilot i gynnwys amrywiaeth ehangach o swyddi a mwy o arbenigo.
Mae'r sectorau ychwanegol a nodwyd fel meysydd posibl yn cynnwys gwasanaethau proffesiynol ym maes adeiladu fel pensaernïaeth a rheoli prosiectau, a chyfleoedd yn y sector proffesiynol, gan gynnwys swyddi gwasanaethau cyfreithiol ac ariannol lle caiff profiad ymarferol yn y gweithle ei werthfawrogi. Mae hefyd potensial i ddatblygu model rhannu gradd-brentisiaethau ar draws cyflogwyr rhanbarthol lle bo'n berthnasol, yn dilyn y modelau rhannu prentisiaethau llwyddiannus sydd wedi'u datblygu hyd yma.
2.10 Prentisiaethau
Cofnodwyd bod 9,405 o bobl wedi dechrau rhaglenni dysgu yn y gwaith yn Ne-orllewin Cymru yn ystod blwyddyn academaidd 2017/18, sef cynnydd o 22% o'i gymharu â'r ffigurau ar gyfer blwyddyn academaidd 2016/17. O safbwynt Canolbarth Cymru, cofnodwyd bod 1,880 o bobl wedi dechrau rhaglenni dysgu yn y gwaith yn ystod blwyddyn academaidd 2017/18, sef cynnydd o 21% ar ffigurau blwyddyn ariannol 2016/17.30 O gofio'r gwerth economaidd a chymdeithasol sydd gan brentisiaethau, gellir gwneud mwy i annog mwy o bobl i fanteisio arnynt. Mae tystiolaeth cyflogwyr yn tynnu sylw at lawer o broblemau y gellid mynd i'r afael â hwy trwy fwy o brofiad a dysgu yn y gweithle, a gall prentisiaethau ddarparu hyn. Mae llawer o fuddion i'r cyflogwr ac i'r dysgwr ac, yn ei thro, i'r economi yn gyffredinol.
Buddion i Fusnes
Deallir bod unigolyn sydd wedi cwblhau prentisiaeth fel rheol yn codi cynhyrchiant £214 yr wythnos. Ar lefel sector, amcangyfrifir bod prentisiaethau fel arfer yn codi cynhyrchiant y sawl sydd wedi'u cwblhau:
• £83 yr wythnos yn y sector manwerthu
• £114 yn y sector gofal iechyd, gwasanaethau cyhoeddus a gofal
• £268 yn y sector busnes, gweinyddu a chyfreithiol
• £401 yn y sector adeiladu a chynllunio
• £414 yn y sector peirianneg a gweithgynhyrchu
30 https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Education-and-Skills/Post-16-Education-and-Training/Further-Education-and- Work-Based-Learning/Learners/Work-Based-Learning/learningprogrammestarts-in-workbasedlearning
31 Nid yw'r enillion cynhyrchiant uchod yn cael eu cyflawni nes cwblhau ac, yn y rhan fwyaf o sectorau, mae enillion net negyddol i gyflogwyr i ddechrau, oherwydd lefel yr hyfforddiant sy'n ofynnol cyn i allu cynhyrchu prentis agosáu at lefel gweithiwr medrus.
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi
















































































   28   29   30   31   32