Page 32 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 32

 32
 Cyflogaeth yn ôl Diwydiant
  Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
Cynhyrchu
Adeiladu
Cyfanwerthu, manwerthu, trafnidiaeth, gwestai a bwyd Gwybodaeth a chyfathrebu
Gweithgareddau cyllid ac yswiriant
Gweithgareddau eiddo diriaethol
Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol Gweinyddiaeth gyhoeddus, amddiffyn, addysg ac iechyd
b) HeriauDemograffig:Felynodwydynflaenorol,mae'rrhanbarthyndioddefoboblogaethsy'nheneiddio gyda nifer uwch na'r cyffredin o unigolion sy'n barod i ymddeol cyn bo hir. Mae hwn yn fater sy'n berthnasol iawn o fewn y cyd-destun gwledig o ystyried y rhwystrau cynyddol ynghylch cael mynediad i wasanaethau a chynyddu'r galw ar y gwasanaethau hynny sydd o dan bwysau yn barod. Mae'r ddemograffeg poblogaeth hon hefyd yn cyflwyno heriau o ran y gweithlu, lle mae poblogaeth sy'n heneiddio fwy yn arwain at lafurlu llai. Mae'r anghydbwysedd demograffig hwn yn creu heriau wrth greu'r màs critigol sydd ei angen i gyflawni ymyriadau mewn modd economaidd hyfyw, ond mae hefyd yn creu gofyniad i gael unigolion i ennill sgiliau newydd a gwella eu sgiliau wrth iddynt fynd yn hŷn.
c) Mynediad at Wasanaethau: Mae natur wledig ac yn arbennig natur wledig iawn yn gosod pwysau sylweddol ar y gwaith o ddarparu gwasanaethau oherwydd nifer o ffactorau gwahanol, gan gynnwys y canlynol:
• Dwyseddau poblogaeth is, sy'n ei gwneud yn anodd sicrhau arbedion maint cymharol. Gall hyn gynnwys nifer fach o gleientiaid i wasanaethau eu cynorthwyo, gan olygu costau mawr i gyrff darparu, yn ogystal â chyfyngu ar gyfleoedd ymgysylltu posibl.
• Mae pellteroedd teithio mawr yn cynyddu'r amser a'r gost o gael gwasanaethau. Gall hyn lesteirio datblygiad sgiliau unigolion mewn ardaloedd gwledig a all ddod ar draws y rhwystrau hyn.
• Mae cysylltedd digidol gwael yn dal i greu her oherwydd cost gosod band eang ffibr. Mae problemau gyda ‘milltir olaf cysylltedd’ yn dal i greu her sylweddol i lawer mewn ardaloedd gwledig, er bod hyn wedi gwella rhywfaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
d) DraenDawn:Ffactoraugwthioathynnuyw'rprifresymaupamymaeunigolionynmudoiffwrddoardal. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r ardaloedd hynny a ystyrir eu bod yn wledig neu'n lled wledig wedi gweld patrwm o fudo lle mae pobl â sgiliau wedi bod yn symud i ffwrdd o ardaloedd, gan ail-leoli mewn ardaloedd mwy trefol – adnabyddir y symudiad hwn fel ‘draen dawn’ ac mae'n gallu achosi diboblogi gwledig. Mae'r ffactorau tynnu mwyaf sy'n arwain at y symudiad hwn yn cynnwys cyflogaeth, incwm uwch, gofal iechyd ac addysg well, a chyfleusterau trefol a’r ffordd o fyw a gynigir. Gwelodd y pedair sir a ystyrir eu bod yn wledig o fewn y rhanbarth ostyngiad cyffredinol o 1,101 o unigolion rhwng 15 a 29 oed rhwng 2016 a 2017. I'r gwrthwyneb, gwelodd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot gynnydd net o 510 yn ystod yr un cyfnod.
         Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi



















































































   30   31   32   33   34