Page 34 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 34

 34
 2.14 Y Gymraeg
Mae'r Gymraeg yn un o sylfeini diwylliant a hunaniaeth Cymru. Mae'n helpu i greu ymdeimlad o le ac mae'n rhan fawr o'r hyn sy'n ein diffinio fel pobl ac fel cenedl. Uchelgais Llywodraeth Cymru yw gweld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg i un filiwn erbyn 2050. Targed uchelgeisiol yw hwn o ystyried mai 896,900 o unigolion yn unig sy'n gallu siarad Cymraeg yn 2019, ond y mae'n un y mae Llywodraeth Cymru yn credu ei fod yn ‘werth chweil a bod angen i ni osod uchelgais o’r fath os ydym am sicrhau hyfywedd yr iaith ar gyfer cenedlaethau i ddod.’36
Gellir casglu o wybodaeth uniongyrchol a gasglwyd gan y Bartneriaeth fod 13% o'r busnesau a arolygwyd yn cyfeirio at ‘sgiliau Cymraeg llafar’ fel her o ran sgiliau. Yn ogystal, dim ond 11% ychwanegol a awgrymodd fod ‘sgiliau Cymraeg ysgrifenedig’ yn her o ran sgiliau iddyn nhw.
Yn dilyn trafodaethau â grwpiau clwstwr, mae'n glir fod lefel pwysigrwydd y Gymraeg o fewn sectorau gwahanol yn amrywio'n sylweddol. Er enghraifft, nododd y sector iechyd a gofal cymdeithasol fod yr iaith yn bwysig iawn iddyn nhw, cymaint felly fel bod argymhelliad wedi'i wneud i ddatblygu darpariaeth ddwyieithog o fewn y pwnc. Yn ogystal, mae sector y diwydiannau creadigol yn cydnabod pwysigrwydd yr iaith ac mae'n nodi ei fod yn anodd recriwtio unigolion sydd â'r sgiliau ieithyddol a ddymunir.
Nododd y rhan fwyaf o'r sectorau eraill, er eu bod yn gweld gwerth yr iaith o ran ei hurddas diwylliannol, nid yw'n hanfodol ar gyfer gweithrediad beunyddiol eu busnesau.
Mae tystiolaeth anecdotaidd a gasglwyd o drafodaethau gyda darparwyr yn awgrymu bod diffyg diddordeb cyffredinol gan ddysgwyr o ran dilyn eu hastudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gweler manylion pellach ar hyn yn y proffiliau sector unigol yn adran 3.
  36 Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi

























































































   32   33   34   35   36