Page 33 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 33

 Er mwyn lleihau tebygolrwydd parhad y duedd hon, mae meysydd ffocws o safbwynt polisi yn cynnwys:
• Rhoi hwb i gyrhaeddiad addysgol er mwyn gwella sgiliau trwy'r gweithlu i gyd
• Rhoi hanfodion economaidd da ar waith sy'n sail i economïau dinas llwyddiannus
– trafnidiaeth, tai a chynllunio
• Helpu i roi hwb i'r galw am weithwyr medrus iawn ymysg busnesau trwy ganolbwyntio ar arloesedd,
buddsoddiad mewnol a pholisïau menter.34
2.13 Twf Gwyrdd a Charbon Isel
Mae'r gwaith o bontio i Gymru carbon isel yn cyflwyno cyfleoedd sy'n ymwneud â thwf glân, swyddi o ansawdd da a manteision ar y farchnad fyd-eang. Mae gan Gymru gryfderau a galluoedd unigryw o fewn ei hamgylchedd a'i thirwedd a fydd yn cefnogi'r symudiad hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi meysydd allweddol ar gyfer gweithredu'r uchelgais hwn yn llwyddiannus, fel a ganlyn:
• Amaethyddiaeth
• Defnydd tir
• Trafnidiaeth
• Ynni
• Y sector cyhoeddus
• Diwydiant a busnes
• Gwastraff
• Cartrefi
Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod economi carbon isel Cymru yn cynnwys oddeutu 9,000 o fusnesau ar hyn o bryd, sy'n cyflogi 13,000 o bobl ac a gynhyrchodd drosiant gwerth £2.4 biliwn yn 2016. At hynny:
‘Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr carbon wedi syrthio, tra bo’r gwerth ychwanegol gros wedi codi. I wella ein ffyniant economaidd, rhaid inni greu amgylchedd lle mae economi Cymru gyfan yn cyfrannu at y nod twf glân. O wneud hynny, mae’n bosibl paratoi economi Cymru ar gyfer marchnadoedd y dyfodol wrth i’r galw am nwyddau a gwasanaethau carbon isel gynyddu.’ 35
Mae'r Bartneriaeth yn gweld ei rôl mewn perthynas â'r agenda carbon isel fel un o bwys. Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn allweddol er mwyn sicrhau y bydd anghenion sgiliau sydd wedi'u halinio i'r trawsnewid hwn yn cael eu nodi trwy gyflogwyr a'u hamlygu o fewn y Cynlluniau Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol wrth symud ymlaen. Gweler manylion pellach ar hyn yn y proffiliau sector unigol o fewn adran 3.
33
  34 Centre for Cities – The Great British Brain Drain (2016) 35https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-cyhoeddi-ffyniant-i-bawb-cymru-carbon-isel? _ga=2.50997609.1741704811.1569831603-1991508259.1544607296
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi













































































   31   32   33   34   35