Page 31 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 31

 Mae buddion eraill yn cynnwys gwelliannau i ansawdd cynnyrch neu wasanaeth, cynhyrchiant a morâl y staff.
Buddion i'r Economi
Mae adroddiad gwerthuso dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru rhwng 2007 a 2011 (Llywodraeth Cymru, 2014) yn dangos gwerth economaidd a chymdeithasol prentisiaethau yng Nghymru. O ran gwerth economaidd prentisiaethau, mae'r adroddiad yn amcangyfrif gwerth prentisiaid i economi Cymru fel a ganlyn:
• Mae Prentisiaethau Sylfaen (Lefel 2) yn cynhyrchu tua £510 miliwn o werth y flwyddyn i economi Cymru (ar sail y lefelau cyfranogi diweddaraf).
• Mae prentisiaethau (Lefel 3) yn cynhyrchu swm tebyg y flwyddyn o £500 miliwn o werth.32,33
2.11 Dysgu Oedolion
Mae ymagwedd dysgu gydol oes yn cael ei chefnogi'n llawn gan y Bartneriaeth a chydnabyddir pwysigrwydd dysgu oedolion. Yn ddiymwad, mae addysg gymunedol ac addysg yn y gweithle yn ganolog i'r gwaith o ddarparu cyfleoedd dysgu i’r unigolion hynny sy'n wynebu rhwystrau unigryw o bosib ac sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur ac yn wynebu anfantais. Mae'n hanfodol cydnabod cyfleoedd dysgu a gynigir trwy ddysgu oedolion am y cyfleoedd i gamu ymlaen maent yn eu creu ac am eu buddion economaidd ehangach wrth gynorthwyo unigolion i gael gwaith a lleihau eu dibyniaeth ar fudd-daliadau gan y wladwriaeth. Gallai dysgu oedolion hefyd gefnogi unigolion sy'n gorfod aros yn y farchnad lafur o ganlyniad i weithlu sy'n heneiddio a chodi oedran pensiwn y wladwriaeth.
2.12 Natur Wledig
Mae mesur natur wledig yn broses gymhleth, ac mae angen ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys tir gwledig, pobl wledig, busnesau gwledig, ac ati. Ar sail dosbarthiadau a gyhoeddwyd yn 2008, mae rhanbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru yn cynnwys awdurdodau gwledig (gyda dwysedd poblogaeth o dan gyfartaledd Cymru o 140 unigolyn fesul cilomedr sgwâr) Powys, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod pob sir yng Nghymru yn cynnwys cymysgedd o ardaloedd ‘trefol’ a ‘gwledig’, felly gellid ystyried bod ardaloedd o Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn ‘wledig’ hefyd.
O ystyried pa mor gyffredin yw natur wledig y rhanbarth, mae'n glir fod yr economi wledig o bwys sylweddol i'n hardaloedd lleol a Chymru yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae natur wledig yn arwain at heriau unigryw ei hun, sy'n cynnwys y canlynol:
a) Cynhyrchiantsy'nLleihau:Maecynhyrchiant(fely'imesurirganwerthychwanegolgros)ynyrardaloedd sy'n wledig yn bennaf yn sylweddol is na chynhyrchiant y Deyrnas Unedig a hefyd yn is na chynhyrchiant ardaloedd mwy trefol yn y rhanbarth. Mae hon yn duedd sydd i'w gweld ar draws y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn rhannol oherwydd y ddemograffeg cyflogaeth sydd i'w gweld yn y rhanbarth; mae cyflogaeth yn fwyaf cyffredin yn y sectorau hynny sy'n cael eu nodweddu fel diwydiannau o werth ychwanegol gros isel. Mae'r graff isod yn dangos bod lefelau cyflogaeth yn gymharol isel o fewn y sectorau hynny sydd wedi'u hamlygu mewn print bras a ystyrir eu bod yn sectorau o werth uchel.
32 Ffederasiwn Cenedlaethol Hyfforddiant Cymru – Gwerth Prentisiaethau i Gymru (2015)
33 Cyfrifwyd yr amcangyfrif hwn o werth prentisiaid i economi Cymru drwy dybio £16 o enillion am bob punt o arian cyhoeddus a wariwyd ar Brentisiaeth Lefel 2 a £21 ar Brentisiaeth Lefel 3 (y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, 2012). Roedd yr amcangyfrif hefyd yn tybio bod gwariant ar Brentisiaethau Lefel 2 rhwng £32 a £36 miliwn ac ar Brentisiaethau Lefel 3 rhwng £24 a £28 miliwn (Llywodraeth Cymru, 2014).
31
  Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi




















































































   29   30   31   32   33