Page 36 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 36

 36
 Bwriad y proffiliau sector yn yr adran hon yw rhoi crynodeb o'r wybodaeth uniongyrchol a gasglwyd gan y Bartneriaeth trwy ei gwaith o ymgysylltu â busnesau a diwydiant. Lle bu'n bosibl, defnyddiwyd tystiolaeth eilaidd briodol i ddarparu manylion pellach.
Micro yn erbyn Mawr
Mae'r tabl isod yn rhoi dadansoddiad o'r holl ymatebion i'r arolwg (beth bynnag fo'r sector) ar gyfer yr holl fusnesau sy'n diffinio fel microfusnesau neu fusnesau mawr. Mae arwydd clir o'r amrywiaeth o heriau y mae'r ddwy garfan yn eu hwynebu a chrynhoir y rhain isod:
     Heriau
Parodrwydd am waith
Heriau o ran sgiliau
Recriwtio
Rhwystrau rhag hyfforddiant
Prentisiaethau
Brexit
Micro (sy'n cyflogi dim mwy na 4,770 o unigolion yn y rhanbarth)
Yr heriau mwyaf cyffredin a nodwyd oedd creu elw, sicrhau gwaith, a heriau economaidd/ ariannol.
Dywedodd 43% o'r ymatebwyr naill ai nad yw gweithwyr newydd yn barod am waith neu eu bod yn amrywio.
Mae 27% o'r busnesau'n wynebu heriau o ran sgiliau ac mae'r mwyafrif yn ymwneud â chrefftau medrus, rolau gwerthu a gwasanaeth cwsmeriaid, a rolau gweinyddol ac ysgrifenyddol.
Dywedodd mwyafrif (74%) y busnesau nad ydynt yn cael trafferth recriwtio ar gyfer rolau penodol.
Dywedodd 70% o'r busnesau nad ydynt yn wynebu rhwystrau rhag hyfforddiant. Dywedodd y rheiny sy'n wynebu rhwystrau bod diffyg cyllid ganddynt ar gyfer hyfforddiant.
Dywedodd 88% o'r microfusnesau a holwyd nad ydynt yn cyflogi prentisiaid, gan nodi mai'r prif reswm dros hyn yw nad yw fframweithiau'n diwallu anghenion y busnes.
Dywedodd mwyafrif y busnesau mai costau cynyddol yw eu prif ystyriaeth. Dywedodd 31% nad ydynt yn rhagweld unrhyw heriau yn sgil Brexit.
Mawr (sy'n cyflogi o leiaf 24,750 o unigolion yn y rhanbarth)
Yr heriau mwyaf cyffredin a nodwyd yw recriwtio, heriau economaidd/ariannol, a datblygu staff.
Dywedodd 77% o'r ymatebwyr naill ai nad yw gweithwyr newydd yn barod am waith neu eu bod yn amrywio.
Mae 69% o'r busnesau'n wynebu heriau o ran sgiliau ac mae'r mwyafrif yn ymwneud â swyddi proffesiynol, swyddi crefftau medrus, a swyddi gofalu, hamdden a gwasanaethau eraill.
Dywedodd mwyafrif (68%) y busnesau eu bod yn cael trafferth recriwtio ar gyfer rolau penodol.
Dywedodd 44% o'r busnesau eu bod yn wynebu rhwystrau rhag hyfforddiant. Y prif rwystr mwyaf cyffredin a nodwyd oedd methu â neilltuo amser staff.
Dywedodd 71% o'r ymatebwyr eu bod yn cyflogi prentisiaid.
Dywedodd mwyafrif y busnesau mai cyllid yw'r ystyriaeth fwyaf sylweddol iddynt o ran Brexit. Yn dilyn hyn, mae costau cynyddol a cholli staff.
                   Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector







































































   34   35   36   37   38