Page 3 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 3

  Rhagair
3
  O dan amgylchiadau arferol, ni fyddai’n anodd rhagamcan y sgiliau fydd angen ar draws y rhanbarth dros y 10 mlynedd nesaf a’u nodi yn y Cynllun Cyflogaeth a sgiliau. Fodd bynnag, mae diwydiannau yn newid mor gyflym prin yw'r amser i ysgrifennu'r fframweithiau sy'n ofynnol i ddarparu'r hyfforddiant.
Yr hyn sydd ei angen arnom yn y rhanbarth yw gweithlu cynhyrchiol a medrus o bob oedran sy'n gallu addasu i newidiadau, i dechnoleg newydd ac i bob swydd yn y pen draw. Bydd gweithlu medrus a chystadleuol yn ein gwneud yn fwy cynhyrchiol, bydd mwy o gyfleoedd i fusnesau newydd a byddwn yn lawer mwy cynaliadwy yn economaidd.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweld prosiectau mawr yn datblygu yn ein hardal, gan gynnwys y Bargen Ddinesig gwerth £1.3 biliwn ar gyfer Bae Abertawe. Mae trafodaethau hefyd yn parhau gyda'r llywodraethau ar gyfer Bargen Twf yng Nghanolbarth Cymru. Nod y bargeinion hyn yw defnyddio arian cyhoeddus a phreifat i fud- dsoddi mewn prosiectau arloesol i gynyddu’r nifer o swyddi medrus, i gynyddu cyflogaeth y rhanbarth ac i rhoi hwb i GYC y rhanbarth. Mae sgiliau'n parhau i fod yn rhan sylfaenol o unrhyw dwf economaidd.
Mae ymgysylltiad â'r sector preifat wedi bod yn allweddol i lwyddiant y rhanbarth, ac mae'r PDSR wedi parhau i ymgysylltu â diwydiant ac rwy'n bles i ddweud ein bod wedi ymgysylltu â mwy o arweinwyr busnes eleni nag erioed. Mae mwy na 1,000 o fusnesau wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â'r PDSR eleni ac wedi rhoi dealltwriaeth pellach ar yr hyn sydd angen o ran sgiliau. Ond ni ddylwn fod yn hunanfodlon, mae angen i ni ddal ati i ymgysylltu â mwy o fusnesau mawr a bach, o bob sector ar draws y rhanbarth gyfan.
Rydym nawr mewn sefyllfa i ateb yr heriau a osodwyd gan ddiwydiant y llynedd ynglŷn a’r ffordd mae eu cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth. Gwelwn fod ariannu Addysg Bellach wedi newid o ganlyniad yr argymhellion a wnaed gan ddiwydiant. Mae cynnydd y rhanbarth mewn prentisiaethau ac mewn cyfleoedd yn ymateb uniongyrchol i ofynion diwydiant, er mwyn ateb eu gofynion o ran sgiliau sy'n parhau i newid.
Fodd bynnag, ein her ni yw dangos i ddiwydiant bod eu cyfraniad wedi gwneud gwahaniaeth a’n bod wedi gwrando arnynt. Mae ehangu’r rhaglen Prentisiaethau gradd TG i gynnwys cyrsiau gweithgynhyrchu uwch a pheirianneg i’w gymeradwyo. Caiff y cyrsiau yma eu hychwanegu at gyrsiau eriall o dan yr un rhaglen, megis; Datblygu Meddalwedd, Seiberddiogelwch a Dadansoddeg Data.
Ochr yn ochr â'r gwaith hynny, roedd cyllid ar gael eleni gan y cyn- Weinidog Dysgu Gydol Oes a Sgiliau i Golegau AB i edrych yn benodol ar rhai o'r argymhellion a ddengys yn y cynllun Cyflogaeth a Sgiliau ar gyfer darpariaeth rhan-amser. Defnyddiwyd yr arian hyn eisioes i ddarparu cyrsiau byr a chyrsiau lefel uwch i ateb gofynion o ran parodrwydd gwaith a sgiliau sylfaenol. Mae cyllid pellach ar gael ar gyfer 2019 i gyflawni'r argymhellion yn y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau.
Mae codi canfyddiadau gweithlu ein dyfodol o gyfleoedd yn yr Economi Sylfaenol, yn y sectorau iechyd, twristiaeth, bwyd, gweithgynhyrchu ac adeiladu yn parhau i fod yn amcan allweddol wrth symud ymlaen.
Wrth i fyd sgiliau a’r economi newid, mae'n bwysig i ni ystyried cenedlaethau'r dyfodol, y diwydiant a’r gymdeithas gyfan trwy greu diwylliant o hyblygrwydd, gwytnwch, creadigrwydd a hyder. Mae rhwngweithio’r darparwyr, y cyflogwyr a'r llywodraeth yn y PDSR yn hanfodol er mwyn i hyn ddigwydd, ac rwy'n cefnogi’r cynllun eleni a gwaith parhaus y PDSR yn symud ymlaen.
Paul Greenwood
Cadeirydd y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol
  Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Rhagair





















































































   1   2   3   4   5