Page 5 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 5

  Crynodeb Gweithredol
Mae'r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol hwn ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru wedi'i ddatblygu i lywio dull strategol Llywodraeth Cymru o ddarparu cyflogaeth a sgiliau.
Mae'r adroddiad hwn yn llywio templed cynllunio a chyllid rhanbarthol sy'n nodi newidiadau a argymhellir i'r cynigion dysgu addysg bellach amser llawn ac yn y gwaith ar draws y rhanbarth ar gyfer y tair blynedd nesaf (blynyddoedd academaidd 19/20, 20/21 a 21/22). Mae'r ddwy elfen yn cyfuno i gynorthwyo Llywodraeth Cymru yn y gwaith o ddarparu amgylchedd dysgu ôl-16 sy'n addas at y diben ac sy'n diwallu anghenion dysgwyr, diwydiant a darparwyr.
Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol (y Bartneriaeth) yn parhau i ystyried y cynllun fel y prif gyfrwng ar gyfer creu newid o fewn y rhanbarth. Mae'r iteriad hwn yn wahanol i'w gymheiriaid o ganlyniad i'w natur ‘hirdymor’, gan ei fod wedi'i ysgrifennu ar gyfer y rhanbarth gyda'r tair blynedd nesaf mewn golwg. Felly, bydd yr argymhellion a wnaed yn llywio cynllun gweithredu a fydd yn pennu gweithgaredd y Bartneriaeth dros y tair blynedd nesaf.
Mae'r Bartneriaeth wedi ymgysylltu'n helaeth â diwydiant i lywio’r gwaith o ddatblygu’r cynllun hwn. Ymgysylltodd cyfanswm o 958 o fusnesau â’r Bartneriaeth drwy'r arolwg sgiliau ac ategwyd y data sylfaenol hwn gan bresenoldeb yn y grŵp clwstwr diwydiant a rhwydweithio.
Mae'r grwpiau clwstwr a grybwyllwyd uchod wedi chwarae, a byddant yn parhau i chwarae, rhan ganolog yn y gwaith o bennu blaenoriaethau diwydiant yn y rhanbarth. Rhoddir cynlluniau ar waith i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau hyn trwy waith partneriaeth effeithiol gyda'r Bartneriaeth a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Mae'r weledigaeth ar gyfer y ddogfen hon ac ar gyfer y Bartneriaeth dros y tair blynedd nesaf fel a ganlyn:
‘Creu amgylchedd dysgu ôl-16 sy'n diwallu anghenion dysgwyr, diwydiant a darparwyr i wella llesiant economaidd De-orllewin a Chanolbarth Cymru.’
Gwnaed y casgliadau ac argymhellion canlynol gan ystyried y weledigaeth hon a byddant yn pennu gweithgaredd y Bartneriaeth dros y tair blynedd nesaf. Gwnaed yr argymhellion o dan y tri mater mwyaf perthnasol a nodir trwy gydol y cynllun, sef cyflogadwyedd, dewisiadau dysgu a gyrfa, a chyfleoedd a darpariaeth.
Cyflogadwyedd
Mae parodrwydd am waith a chyflogadwyedd cyffredinol yn thema glir sy'n destun pryder ar draws sawl sector. Fe'i canfyddir fel bod yn rhwystr sylweddol rhag cyflogi unigolion cymwys sy'n gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol i fusnes a diwydiant penodol. Mae angen gwneud mwy o waith i roi'r sgiliau cyflogadwyedd a meddal a ddymunir i ddysgwyr sydd eu hangen i gael gwaith ystyrlon sydd o fudd i’r cyflogwr a'r gweithiwr/dysgwr.
1. Cynyddu gwaith ymgysylltu ag ysgolion er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o'r sgiliau y mae cyflogwyr yn ystyried eu bod yn hanfodol, gan sicrhau bod cyflogadwyedd a sgiliau meddal yn cael eu hamlygu fel rhai sydd mor berthnasol â sgiliau technegol neu ymarferol.
2. Gwella gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â materion o ran cyflogadwyedd unigolion, yn enwedig y rheini sy'n profi rhwystrau ychwanegol i ddysgu a chyflogadwyedd.
5
   Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Crynodeb Gweithredol




















































































   3   4   5   6   7