Page 41 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 41

 Mae'r sector adeiladu wedi bod yn strategol bwysig i'r rhanbarth ac mae'n parhau i wneud hynny, yn sgil ei nifer uchel o weithwyr a'i werth ychwanegol gros uchel. Fodd bynnag, yn ystod chwe mis cyntaf 2019, gwelwyd y lleihad cyntaf yn llwyth gwaith mentrau bach a chanolig ar lefel genedlaethol ers chwe blynedd. Mae hyn yn destun pryder arbennig i'r rhanbarth o ystyried ei ddibyniaeth ar BBaChau a'u hamlygrwydd yn yr economi leol.41
Mae 21,632 o swyddi amser llawn a rhan-amser yn y sector ac mae disgwyl i hyn leihau 2.5% rhwng 2019 a 2022. Mae cyflogaeth ar ei huchaf yn y swyddi canlynol:
• Trydanwyr a gosodwyr trydanol (1,505)
• Plymwyr a pheirianyddion gwresogi ac awyru (1,231)
• Rheolwyr cynhyrchu a chyfarwyddwyr adeiladu (1,193)
• Saer coed a saer dodrefn (1,174)
• Swyddi adeiladu elfennol (1,141)
Tystiolaeth Cyflogwyr - Proffil yr Ymatebwyr
Sir Maint y Busnes
Micro Bach
Canolig Mawr
Cyfanswm
2 11 19 33 25 21 11 122
41
 3.2 Adeiladu
            Ceredigion 1 1
Powys 9200 Sir Benfro 7     7   50 Sir Gaerfyrddin 13     9   83 Abertawe 10 5     82 Castell-nedd Port Talbot 8     8   32 Arall 3341 Cyfanswm 51     35   28   548
Heriau
0     0
                           Ymhlith y prif heriau a nodwyd gan fusnesau sy'n gweithredu yn y sector adeiladu yn y rhanbarth mae creu elw, sicrhau gwaith, datblygu staff, recriwtio a hyfforddi. Mae'r rhain yn gyson â'r canlyniadau a gasglwyd yn ystod 2017 a 2018. O edrych ar y data, mae'n amlwg, wrth gwrs, fod sicrhau gwaith yn hanfodol i fwyafrif helaeth y busnesau gan mai hyn sydd wrth wraidd creu elw, datblygu staff, a recriwtio a hyfforddi.
41 https://www.fmb.org.uk/media/44247/fmb-state-of-trade-survey-q1-2019.pdf
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector













































































   39   40   41   42   43