Page 43 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 43

 43
 2. Gallai lefel uchel o wybodaeth a phrofiad olygu y bydd gan y sector lai o weithwyr proffesiynol cystal ar gael yn y gweithlu ymhen nifer o flynyddoedd er mwyn llenwi'r swyddi hyn. Er cyd-destun, mae gan y sector adeiladu ar lefel y DU nifer gynyddol o weithwyr sydd dros 60 oed a chafwyd y lleihad mwyaf ynddo yng nghyfanswm nifer y gweithwyr o dan 30 oed. Felly, gallai'r effaith fod yn sylweddol.44
Gallai gwell ymdrech gan ymarferwyr gyrfaoedd, cyngor ac arweiniad, yn ogystal ag ysgolion a'r diwydiant ei hun, i hyrwyddo'r sector yn gadarnhaol a'r cyfleoedd y mae'n ei gynnig, wella'r broblem.
Teimla'r grŵp clwstwr y byddai dull o ddadansoddi gwerth y broses yn fuddiol.45 Byddai hyn yn cynnwys cyfres o ymweliadau ag ysgolion, gan ddefnyddio menter cymorth cwricwlwm y CITB a chynnig lleoliadau a mentora i'r rheiny sy'n astudio cyrsiau lefel un yn y rhanbarth. Byddai hyn yn cryfhau safle'r diwydiant yn y rhanbarth, gan leddfu problemau o ran recriwtio, a hyrwyddo'r sector yn gadarnhaol i ddynion a menywod ifanc.
Parodrwydd am Waith
Dim ond 24% o'r ymatebwyr a oedd o'r farn fod gweithwyr newydd yn y sector yn barod am waith. Yn ôl cyflogwyr, mae diffyg profiad gwaith (62%) neu'r sgiliau (60%) dymunol gan y mwyafrif.
Problem sylweddol i gyflogwyr yw'r diffyg sgiliau ymarferol a ddatblygwyd gan ddysgwyr fel rhan o'u cymhwyster addysg bellach amser llawn. Yn fwy penodol, teimlir bod y diffyg hyfforddiant ‘byw’ ar y safle'n anfanteisiol i'r dysgwr, y cyflogwr a'r diwydiant yn ei gyfanrwydd. Mae hyn yn gyson â chanfyddiadau adolygiad cymhwyster a gynhaliwyd gan Cymwysterau Cymru. Gwnaeth yr adolygiad nodi:
• ‘bod y cynnig presennol ar gyfer y sector hwn yn gymhleth, gydag ailadrodd a llwybrau dilyniant aneglur;
• bod cynnwys a chynllun y cymwysterau’n golygu y gall dysgwyr fethu â datblygu’r sgiliau a’r
technegau sydd eu hangen arnynt i ddiwallu anghenion cyflogwyr ledled Cymru;
• nad yw’r cymwysterau bob amser yn diwallu anghenion cyflogwyr na’r economi – ac ystyrir bod rhai
yn hen ffasiwn, yn amherthnasol neu’n annigonol;
• nad yw’r gwaith asesu wedi ei reoli’n dda yn aml, a gall sicrwydd ansawdd fod yn anghyson ac o
safon wael.46’
Yn ogystal â hynny, cwestiynir gwerth y cymhwyster Lefel 1, gan nodi bod blwyddyn sylfaen mewn adeiladu yn ddull o astudio a ffefrir. Byddai hyn yn caniatáu i ddysgwyr gael sylfaen gadarn mewn sawl gwahanol fasnach ac arbenigedd yn y diwydiant. Y gobaith yw y byddai hyn yn lleihau nifer y dysgwyr sy'n gadael y cymhwyster yn sylweddol ac yn eu galluogi i wneud dewisiadau mwy deallus ynglŷn â'u llwybr yn y diwydiant yn hytrach na cholli diddordeb.
Ffefrir llwybrau dysgu galwedigaethol gan gyflogwyr gan yr ystyrir lefel y profiad ymarferol a enillir yn uwch a'i bod o well ansawdd.
45 Datblygwyd strategaeth dadansoddi gwerth y broses trwy ddeialog adeiladol rhwng cynrychiolwyr darparwyr a'r diwydiant er mwyn mynd i'r afael â phroblemau a nodir o ran LLEOLIADAU profiad gwaith, YMWELIADAU ag ysgolion ac ymgysylltu, gan arwain at ragor o gyfleoedd amrywiol, darparu PRENTISIAETHAU cynaliadwy, a chreu model cyfoeth cymunedol i'r rhanbarth a arweinir gan adeiladu. Defnyddir y dull hwn o weithio ar y cyd i geisio cyllid gan amryw gyrff er mwyn mynd i'r afael â phroblemau hanfodol yn y llwybr hyfforddi adeiladu.
46 https://www.qualificationswales.org/cymraeg/cymwysterau/cymwysterau-galwedigaethol/adolygiadau-sector/adeiladu- ar-amgylchedd-adeiledig/
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector
















































































   41   42   43   44   45