Page 44 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 44

 44
 Heriau o ran Sgiliau
Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr i'r arolwg o sgiliau (65%) eu bod yn wynebu heriau o ran sgiliau, a bod yr heriau hyn yn fwy amlwg mewn swyddi crefftau medrus (75%), wedi’u dilyn gan weithredwyr prosesau, peirianwaith a pheiriannau (18%), a rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion (16)%.
Yr heriau mwyaf cyffredin o ran sgiliau a nodwyd yw:
• Sgiliau neu wybodaeth arbenigol mae eu hangen i gyflawni’r rôl% (66%)
• Gwybodaeth am y cynhyrchion a’r gwasanaethau mae’r sefydliad yn eu cynnig (26%)
• Datrys problemau (25%)
• Sgiliau cyfathrebu (22%)
• Cyfarwyddiadau darllen a deall (14%)
Mae dadansoddiad48 o'r sgiliau caled a meddal mwyaf cyffredin sydd eu hangen ar gyflogwyr yn y sector a oedd yn recriwtio rhwng mis Ionawr 2018 a mis Ionawr 2019 yn cadarnhau'r canfyddiadau hyn:
  Sgiliau Caled Mwyaf Cyffredin
Rheolaeth Gwaith coed Cynnal a chadw Gyrru Peirianneg Olew/nwy Paentio
Sgiliau Meddal Mwyaf Cyffredin
Amserlennu Arweinyddiaeth Llythrennedd Arwain
Dysgu
Moeseg
Cydlynu
Meddwl yn feirniadol Saernïaeth Cyfathrebu darbwyllol
                     Recriwtio
Dywedodd 55% o'r ymatebwyr eu bod wedi cael trafferth yn recriwtio ar gyfer rolau penodol. Ymysg y trafferthion mwyaf cyffredin a nodwyd mae peirianwyr, pobl crefftau medrus (h.y. plymwyr, saer coed a bricwyr), rolau pensaernïol, rheolwyr safleoedd a phrosiectau, a syrfëwyr meintiau.
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector














































































   42   43   44   45   46